Mae disgwyl i Lywodraeth y Deyrnas Unedig gyhoeddi y bydd yn ofynnol i weithwyr mewn cartrefi gofal gael brechiadau coronafeirws yn Lloegr.
Mae’r Ysgrifennydd Iechyd Matt Hancock o blaid, tra bod prif swyddog meddygol Lloegr, yr Athro Chris Whitty, wedi dweud bod gan feddygon a gweithwyr gofal “gyfrifoldeb proffesiynol” i amddiffyn eu cleifion.
Mae disgwyl i Weinidogion gyhoeddi eu penderfyniad yn y dyddiau nesaf, ar ôl cynnal ymgynghoriad i frechu staff yn Lloegr er mwyn amddiffyn y rhai mwyaf agored i niwed rhag Covid-19.
Daw hyn ar ôl pryderon bod cyfraddau brechu staff cartrefi gofal yn isel mewn rhai rhannau o Loegr, megis Llundain.
Yn gyffredinol, mae ffigurau’r Gwasanaeth Iechyd (GIG) hyd at 6 Mehefin yn dangos bod 84% o’r staff mewn cartrefi gofal yn Lloegr wedi cael un dos o’r brechlyn, ac mae bron i 69% wedi cael y ddau bigiad.
Ond mae data’r GIG yn dangos mai dim ond 66.7% o staff mewn cartrefi gofal oedolion hŷn sydd wedi cael eu dos cyntaf yn Hackney, yn nwyrain Llundain, gyda dim ond 58.6% o staff wedi cael y ddau ddos.
Dywedodd llefarydd ar ran yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol: “Brechlynnau yw ein ffordd allan o’r pandemig hwn ac maent eisoes wedi achub miloedd o fywydau – gyda miliynau o staff iechyd a gofal yn cael eu brechu.
“Ein blaenoriaeth yw sicrhau bod pobol mewn cartrefi gofal yn cael eu hamddiffyn a lansiwyd yr ymgynghoriad gennym i gasglu barn ynghylch a allai’r Llywodraeth fwrw ymlaen â gofyniad newydd i gartrefi gofal, sy’n gofalu am bobl hŷn, ddim ond i ddefnyddio staff sydd wedi cael brechiad Covid-19.”
Dadleuol
Mae’r syniad, a adroddwyd gyntaf gan y Guardian, yn ddadleuol, gydag undeb y GMB yn dweud y byddai mwy na thraean o ofalwyr yn ystyried gadael eu swyddi pe bai brechiadau’n dod yn orfodol.
Dywedodd Rachel Harrison, swyddog cenedlaethol y GMB: “Mae gofalwyr wedi bod ar flaen y gad yn y pandemig hwn, gan beryglu eu bywydau i gadw ein hanwyliaid yn ddiogel, gan ddioddef safonau gwaith Fictoraidd yn aml yn y broses.
“Gallai’r Llywodraeth wneud llawer i’w helpu: mynd i’r afael â’u cyflog, telerau ac amodau, cynyddu cyfradd a mynediad i dâl salwch cytundebol, gwahardd cytundebau oriau sero, a sicrhau mwy o dimau brechu symudol fel y gall y rhai sy’n gweithio shifftiau nos gael pigiad.
“Yn hytrach, mae gweinidogion yn bwrw ymlaen â chynlluniau i orfodi gweithwyr gofal i gymryd y brechlyn heb gymryd o ddifrif y rhwystrau enfawr y mae’r gweithwyr hyn yn dal i’w hwynebu wrth gael eu brechu.”
“Penderfyniad anodd”
Ond dywedodd cyfarwyddwr iechyd cyhoeddus Gateshead, Alice Wiseman, wrth Times Radio ei bod o blaid, gan ddweud: “Mae hwn yn benderfyniad anodd iawn gan nad oes neb byth eisiau dileu hawl unigolyn i gael y dewis hwnnw.
“Ond rydym yn gwneud rhai brechlynnau’n orfodol mewn agweddau eraill o ofal iechyd.
“Er enghraifft, rydym yn sicrhau bod pob llawfeddyg yn cael ei frechiad Hepatitis B, ac mae’n bwysig iawn ein bod yn gwneud hyn lle rydym yn amddiffyn y bobl hynny yr ydym yn gofalu amdanynt.
“Ac yn sicr, pe bai gen i fam mewn cartref gofal, byddwn i eisiau gwybod bod y staff o’i chwmpas wedi’u hamddiffyn yn llawn ac yn gallu rhoi’r gofal gorau iddi.
“Felly, er fy mod yn gwerthfawrogi ei fod yn anodd iawn fel penderfyniad, rwy’n ddiolchgar ein bod yn edrych ar hynny.”
Mae corff gwarchod hawliau dynol y Deyrnas Unedig, y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, wedi dod i’r casgliad ei bod yn “rhesymol” ei gwneud yn ofynnol yn gyfreithiol i staff cartrefi henoed gael eu brechu.
Ond fe wnaeth gynghori y dylid cynnwys mesurau diogelu i leihau’r risg o wahaniaethu drwy gynnwys eithriadau gan gynnwys ar gyfer staff na ellir eu brechu am resymau meddygol.
Llywodraeth Cymru am “barhau i weithio gyda’r sector cartrefi gofal”
Gofynnodd golwg360 wrth Lywodraeth Cymru a fydda nhw’n ystyried ei gwneud hi’n ofynnol i weithwyr mewn cartrefi gofal gael brechiadau yma yng Nghymru.
Wrth ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Mae diogelu’r bobol fwyaf agored i niwed mewn cartrefi gofal yn ganolog i’n hymateb i’r pandemig a’n strategaeth frechu.
“Mae mwy na 92% o staff sy’n gweithio mewn cartrefi gofal i bobol hŷn wedi cael dos cyntaf y brechlyn ac 85% wedi cael yr ail ddos.
“Byddwn yn parhau i weithio gyda’r sector cartrefi gofal i frechu staff a phreswylwyr a’u diogelu.”