Bydd Joe Biden a Vladimir Putin yn cyfarfod heddiw (16 Mehefin) ar gyfer uwchgynhadledd yng Ngenefa yn y Swistir er mwyn “sefydlogi’r berthynas” rhwng Rwsia a’r Unol Daleithiau.
Mae’e Arlywydd Biden wedi tynnu sylw at ymosodiadau seibr gan hacwyr yn Rwsia dro ar ôl tro yn y misoedd diwethaf, ac wedi dweud nad yw’r Arlywydd Putin yn parchu democratiaeth wrth garcharu arweinydd yr wrthblaid ac ymyrryd yn etholiadau’r Unol Daleithiau.
Wrth ymateb, mae Vladimir Putin wedi dweud nad oes gan yr Unol Daleithiau hawl i sôn am yr hyn sy’n ‘normal’ mewn democratiaeth wedi’r terfysg yn Capitol Hill yn Washington ym mis Ionawr.
Mae Vladimir Putin wedi mynnu nad oedd Llywodraeth Rwsia wedi ymyrryd yn yr etholiad, nag yn rhan o’r ymosodiadau seibr, er bod cudd-wybodaeth yr Unol Daleithiau yn dangos i’r gwrthwyneb.
“Sefydlogrwydd a rhagweladwyedd”
Bydd y ddau yn cyfarfod wyneb yn wyneb fel arweinwyr am y tro cyntaf heddiw, ac mae’n debyg y bydd y drafodaeth yn para tua phum awr.
Nid yw’r un o’r ddau yn disgwyl pethau mawr o’r cyfarfod, ond mae Joe Biden wedi dweud y byddai’n gam pwysig petai’r Unol Daleithiau a Rwsia’n gallu dod o hyd i “sefydlogrwydd” yn eu perthynas.
“Pan fo hynny o fudd i’r ddwy ochr, o fudd i’r byd, dylem ni benderfynu cydweithio, a gweld os allwn ni wneud hynny,” meddai Joe Biden.
“Ac mewn materion nad ydyn ni’n gallu cytuno, gwneud yn siŵr beth yw’r llinellau coch.”
Perthynas y ddau
Cafodd llysgennad Rwsia yn America ei dynnu o Washington tua thri mis yn ôl yn dilyn sylwadau a wnaeth Joe Biden am Vladimir Putin, a gadawodd llysgennad America yn Rwsia’r wlad tua deufis yn ôl, wedi i Rwsia awgrymu ei fod e’n dychwelyd i Washington.
Bydd y ddau lysgennad yn rhan o’r cyfarfod yng Ngenefa heddiw.
Mae gweithwyr yng ngweinyddiaeth Joe Biden yn credu y gallen nhw ddod i gytundeb ar reolaeth arfau, yn sgil pwysau gan grwpiau rheoli arfau rhyngwladol i gynnal sgyrsiau i gael “sefydlogrwydd strategol” ar y mater.
Mae Rwsia wedi dweud fod carcharu arweinydd yr wrthblaid, Alexei Navalny, yn fater gwleidyddol mewnol, ac na fydd Vladimir Putin yn trafod y peth gyda Joe Biden.
Er hynny, mae aelod o weinyddiaeth Joe Biden wedi dweud “nad oes yna’r un mater na allai gael ei godi gan yr arlywydd”.