Fe wnaeth prisiau tai yng Nghymru godi eto ym mis Ebrill eleni, er bod y prisiau dros y Deyrnas Unedig wedi gostwng.

Ar gyfartaledd, roedd tŷ yng Nghymru yn costio £185,000 ym mis Ebrill 2021, gan gyrraedd record newydd, meddai’r Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Roedd cynnydd o ychydig dros £1,000 mewn pris cyfartalog tŷ yng Nghymru rhwng mis Mawrth a mis Ebrill.

Fis Ebrill, fe wnaeth prisiau tai ostwng yn yr Alban a Lloegr, a sefydlogi yng Ngogledd Iwerddon.

Daw hyn wrth i Lywodraeth Cymru wynebu pwysau i ymateb ar frys i’r argyfwng ail gartrefi, “sy’n prisio pobol allan” o’u cymunedau.

Cynnydd

Cynyddodd prisiau tai yng Nghymru o 15.6% rhwng Ebrill 2020 a 2021 ac, yn yr un cyfnod, bu cynnydd o 8.9% yng Nghymru, 6.3% yn yr Alban, a 6% yng Ngogledd Iwerddon.

Roedd cynnydd mewn prisiau ym mhob un o awdurdodau lleol Cymru yn y cyfnod hwnnw, gyda’r cynnydd mwyaf yng Ngheredigion (26.7%), a thai yn costio £237,000 ar gyfartaledd yn y sir.

Yn ystod mis Ebrill eleni, roedd prisiau tai ar eu huchaf ym Mro Morgannwg, Sir Fynwy, a Cheredigion.

O gymharu, bu’r cynnydd lleiaf ym Merthyr Tudful (2.9%) lle’r oedd pris cyfartalog tŷ yn £112,000.

Twf yn arafu

Er bod y twf yng ngweddill gwledydd y Deyrnas Unedig wedi arafu am y tro cyntaf mewn 11 mis, ar gyfartaledd roedd pris tŷ dal £20,000 yn uwch nag ar ddechrau’r pandemig.

Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol, mae’n debyg fod cynnydd ym mhrisiau tai ym mis Mawrth gan fod pobol yn rhuthro i brynu tai cyn i’r egwyl mewn treth stamp ddod i ben ddiwedd y mis.

Erbyn hyn, mae’r egwyl wedi’i ymestyn nes 30 Mehefin yng Nghymru.

“Disgynnodd pris cyfartalog tŷ yn y Deyrnas Unedig fis Ebrill, gan ddod ag 11 mis o dwf dilynol i ben,” meddai Sam Becket, pennaeth ystadegau economaidd y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Galw ar Lywodraeth Cymru i ddatrys yr argyfwng tai “ar fyrder” cyn dadl yn y Senedd

“Nid yw Llywodraeth Cymru wedi dangos uchelgais nag awydd gwleidyddol i ddatrys yr argyfwng,” meddai Mabon ap Gwynfor