Mae Plaid Cymru’n galw ar Lywodraeth Cymru i ddatrys yr argyfwng tai drwy “weithredu gyda’r brys pennaf”.
Daw hyn cyn i’r blaid arwain dadl yn y Senedd ar y polisi tai heddiw (Dydd Mercher, 16 Mehefin).
Wrth siarad cyn y ddadl, dywedodd Mabon ap Gwynfor AoS, llefarydd Plaid Cymru ar Dai a Chynllunio, nad yw Llywodraeth Cymru wedi dangos yr “uchelgais na’r awydd gwleidyddol” i ddatrys yr argyfwng.
Ychwanegodd fod cymunedau ar draws Cymru’n dioddef, gan bwysleisio’r newidiadau y mae ei blaid yn dymuno eu gweld.
Ar hyn o bryd mae 67,000 o deuluoedd yng Nghymru yn disgwyl ar restrau am dai, gyda 40% o’r stoc dai yn ail gartrefi mewn rhai cymunedau.
Mae adroddiad diweddar gan Dr Simon Brooks, a gafodd ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru, yn rhagweld y bydd yr argyfwng yn gwaethygu o ganlyniad i Brexit a’r pandemig oni bai fod y Llywodraeth yn ymyrryd.
“Ni all hyn barhau”
“Mae llety yn angen dynol sylfaenol, a dylai fod gan bawb hawl i fyw mewn cartref diogel – nid yw Llywodraeth Cymru wedi dangos uchelgais nag awydd gwleidyddol i ddatrys yr argyfwng tai hyd yn hyn, a rhaid iddi weithredu â’r brys pennaf i wneud hynny,” meddai Mabon ap Gwynfor, sy’n cynrychioli Dwyfor Meirionnydd yn y Senedd.
“Un symptom o’r argyfwng tai presennol yr ydyn ni’n byw drwyddi yw nifer yr ail gartrefi.
“Mae pobol sydd eisiau byw a gweithio yn yr ardal o’u dewis, yn aml cymunedau eu magwraeth, yn cael eu prisio allan ac nid ydyn nhw’n gallu fforddio gwneud hynny yn sgil prisiau eiddo o ganlyniad i’r cynnydd hyn mewn ail gartrefi a thai gwyliau tymor byr.
“Nid yw’r argyfwng hwn yn gyfyngedig i’r cymunedau hyn – mae’n ymestyn tu hwnt i ardaloedd gwledig a thwristaidd, mae pobol yn dioddef dros Gymru.
“Mae miloedd o bobol yn parhau’n gaeth i gylch o ansicrwydd am dŷ, yn cael eu gorfodi i symud yn aml, byw mewn llety rhent sy’n is na’r safon, neu’n gorfod dewis rhwng cartref ac anghenion eraill megis gwres a bwyd. Ni all hyn barhau,” pwysleisia.
“Mae Plaid Cymru eisiau gweld ymyrraeth uniongyrchol i leihau’r argyfwng, megis newidiadau i ddeddfau cynlluniau sy’n caniatáu i gynghorau osod cap ar nifer yr ail gartrefi, cau’r bwlch sy’n caniatáu i berchnogion ail gartrefi gofrestru eu heiddo fel ‘busnes’ er mwyn osgoi talu premiwm y dreth gyngor, a chyflwyno rheoliadau i dreblu’r Dreth Trafodiadau Tir ar brynu ail eiddo.”
Llywodraeth Cymru am ymateb “yn gyflym” i’r argyfwng tai haf, yn ôl Gweinidog y Gymraeg
Holl arweinwyr cynghorau sir Plaid Cymru yn galw ar y Prif Weinidog i weithredu ar dai haf