Mae cyfradd chwyddiant y Deyrnas Unedig wedi codi’n uwch fis diwethaf yn sgil cynnydd mewn prisiau petrol a dillad.

Roedd Mynegai Prisiau Defnyddwyr (CPI) wedi codi i 2.1% ym mis Mai, oedd yn uwch na tharged Banc Lloegr o 2%, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS).

Mae’n gynnydd o’r 1.5% a gafodd ei gofnodi gan yr ONS ym mis Ebrill.

Roedd economegwyr wedi darogan cyfradd o 1.8% ar gyfer mis Mai.

Dywedodd prif economegydd yr ONS, Grant Fitzner: “Mae cyfradd chwyddiant wedi codi eto ym mis Mai a bellach dros 2% am y tro cyntaf ers yr haf yn 2019.

“Roedd y cynnydd mis yma yn bennaf oherwydd prisiau petrol, oedd wedi gostwng yr adeg yma’r llynedd ond wedi cynnydd eto eleni, yn sgil cynnydd mewn prisiau olew.

“Mae prisiau dillad hefyd wedi cynyddu’r pwysau wrth i ostyngiad mewn prisiau gwympo ym mis Mai.”