Mae Prifysgol Aberystwyth wedi addo gwneud cyfraniad ariannol tuag at yr ymgyrch i gomisiynu cerflun o’r bardd a’r newyddiadurwraig Cranogwen yn Llangrannog.

Nod ymgyrch Monumental Welsh Women yw cynyddu nifer y cerfluniau cyhoeddus o fenywod yng Nghymru.

I geisio gwneud yn iawn am y ffaith nad oes yr un cerflun o Gymraes hanesyddol mewn unrhyw safle awyr agored yng Nghymru, mae’r grŵp yn ceisio codi pum cerflun dros gyfnod o bum mlynedd.

Bwriad yr ymgyrch yw comisiynu’r artist Seb Bovesen, sy’n byw ac yn gweithio yn Llangrannog, i greu cerflun efydd o Cranogwen, er mwyn ei osod ger Eglwys Sant Crannog, lle mae hi wedi’i chladdu.

Dywedir mai Sarah Jane Rees, neu Cranogwen, oedd “Cymraes fwyaf eithriadol y 19eg ganrif”, a rhagorodd mewn sawl maes fel llongwr, bardd, athrawes, darlithydd, pregethwr, newyddiadurwraig, hyrwyddwr dirwest, ac ymgyrchydd gwleidyddol.

‘Cyflawniadau eithriadol’

“Mae’n bleser gan Brifysgol Aberystwyth chwarae ei rhan yn yr ymgyrch werth chweil hon i unioni sefyllfa diffyg amrywiaeth cerfluniau cyhoeddus yng Nghymru,” meddai Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth.

“Bu cydraddoldeb yn rhan allweddol o genadwri Prifysgol Aberystwyth o’r cychwyn, ac roedd yn un o’r prifysgolion cyntaf yn y Deyrnas Gyfunol i dderbyn menywod yn fyfyrwyr ym 1874, ac yma yr agorwyd y neuadd breswyl bwrpasol gyntaf mewn prifysgol i ferched ym 1896.

“Gadawodd Cranogwen gyflawniadau eithriadol ac arloesol fel etifeddiaeth yng Ngheredigion, ac mae’r Brifysgol yn falch i gael cyfrannu tuag at godi arian ar gyfer cerflun i gydnabod ei bywyd eithriadol.”

“Haeddu cael ei chofio”

“Rydym wrth ein bodd bod y Brifysgol mor gefnogol i’n prosiect ac yn ddiolchgar iawn am ei chyfraniad i’r gronfa, a fydd yn sicrhau y gallwn gomisiynu cerflun teilwng i’n harwres,” meddai Helen Molyneux, o’r ymgyrch Monumental Welsh Women.

“Mae Cranogwen yn haeddu cael ei chofio a’i chydnabod am yr hyn a gyflawnodd a gobeithio y bydd y cerflun ohoni yn ysbrydoliaeth i genedlaethau o ferched yn Llangrannog a gorllewin Cymru i fynnu gorwelion eang ac uchelgais fawr.”

Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi £100,000 tuag at gostau’r cerfluniau, ac mae’n debyg fod pob cerflun am gostio £75,000 yr un.

Mae’r mudiad yn cynnal ymgyrchoedd codi arian er mwyn talu am gerfluniau o Granogwen, Elizabeth Andrews, Betty Campbell, Elaine Morgan a Margaret Haig Thomas.