Mae Prifysgol Abertawe’n adeiladu ar ei phartneriaeth gyda Phrifysgol Trent yn Ontario drwy lansio cyfle arall i astudio yng Nghymru a Chanada.

Mae’r brifysgol eisoes wedi sefydlu graddau deuol yn y Gyfraith a Pheirianneg Gemegol ar y cyd â Phrifysgol Trent.

Bydd y trefniadau hynny bellach yn cael eu hehangu i gynnwys llwybr graddau deuol i raglenni israddedig yn Ysgol Feddygaeth Abertawe.

Fe fydd myfyrwyr sy’n dilyn y rhaglen ym Mhrifysgol Trent yn astudio gradd Baglor yn y Celfyddydau a Gwyddoniaeth gyffredin yn Ontario am ddwy flynedd, cyn dilyn un o raglenni BSc israddedig Ysgol Feddygaeth Abertawe.

Ar ôl bod yn Abertawe am ddwy flynedd, bydd y myfyrwyr yn graddio gyda B.A.S. o Brifysgol Trent, a BSc o Brifysgol Abertawe.

Mae gan Brifysgol Trent fwy nag 8,000 o fyfyrwyr, a chafodd y cysylltiad ag Abertawe ei sefydlu yn 1988 gan yr Ysgol Fusnes ar gyfer dibenion cyfnewid myfyrwyr.

Yn 2016, cafodd y cysylltiad ei ehangu er mwyn cynnig graddau deuol ac yn 2018, cafodd y rhaglen peirianneg gemegol ei lansio er mwyn galluogi myfyrwyr i ddilyn eu gradd gyntaf yn Ontario am ddwy flynedd cyn astudio yng Nghymru.

‘Prifysgol ryngwladol’

“Fel prifysgol ryngwladol, rydym yn ffodus y gallwn weithio gyda phrifysgolion, sefydliadau gofal iechyd, diwydiant a’r sector cyhoeddus ledled y byd,” meddai’r Athro Keith Lloyd, Deon Meddygaeth Prifysgol Abertawe.

“Mae’r cydweithrediad diweddaraf hwn yn ddatblygiad cyffrous arall ac mae’n dangos y gwaith addysgu, ymchwil ac arloesi o’r radd flaenaf rydym yn ei wneud yma yn Abertawe.

“Rydym yn edrych ymlaen at ddyfodiad ein myfyrwyr o Brifysgol Trent ac at eu helpu i fod yn weithwyr iechyd, addysgwyr, ymchwilwyr a gwyddonwyr bywyd proffesiynol y dyfodol.”

“Ehangu gorwelion”

“Mae rhaglen Baglor yn y Celfyddydau a Gwyddoniaeth o’r radd flaenaf Prifysgol Trent yn enwog am ddenu myfyrwyr o safon sy’n ymddiddori yn y croestoriadau rhwng y celfyddydau a gwyddoniaeth,” meddai Dr Mark Skinner, Deon y Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Trent.

“Rydym yn falch o weithio gyda Phrifysgol Abertawe i gynnig y cyfle i’n myfyrwyr ehangu eu gorwelion a’u profiad drwy ddysgu rhyngwladol wrth iddynt baratoi ar gyfer gyrfaoedd fel gweithwyr proffesiynol aeddfed yn y sector gofal iechyd.”