Mae Mark Drakeford, prif weinidog Cymru, yn dweud y byddai treth dwristiaid “er budd y diwydiant” yng Nghymru.

Yn ôl y cynllun, byddai’n rhaid i bobol sy’n ymweld â Chymru dalu’r dreth, ac mae Llywodraeth Cymru wedi addo cynnal ymgynghoriad er mwyn galluogi awdurdodau lleol i godi’r dreth, a hynny fel rhan o’u cynllun pum mlynedd a gafodd ei gyhoeddi ddydd Mawrth, Mehefin 15.

Dywedodd Mark Drakeford wrth y Senedd fod y syniad o dreth dwristiaeth i’w weld mewn sawl rhan o’r byd, gan gynnwys Caerfaddon, Lerpwl ac Aberdeen.

“Mae’n fater o roi’r grym a’r awdurdod i awdurdodau lleol yng Nghymru i wneud penderfyniad drostyn nhw eu hunain o ran p’un a fyddai treth dwristiaeth yn eu galluogi nhw i barhau i fuddsoddi’n well yn yr amgylchiadau sy’n gwneud yr ardaloedd hynny’n ddeniadol i dwristiaeth,” meddai.

“Dw i’n glir iawn yn fy meddwl fy hun y bydd treth dwristiaeth, o’i gwneud yn iawn, er budd y diwydiant oherwydd yr hyn y bydd yn galluogi’r awdurdodau lleol hynny i’w wneud yw buddsoddi yn y pethau sy’n gwneud yr ardaloedd hynny’n ddeniadol i dwristiaid yn y lle cyntaf.

“Ar hyn o bryd, y trigolion lleol hynny sy’n talu am bopeth.”

Yn ôl y prif weinidog, ni fyddai’n rhaid i awdurdodau lleol orfodi’r fath dreth pe na baen nhw’n dymuno gwneud, a does dim cynlluniau i godi trethi yng Nghymru “tra bo’r economi’n adfer”.

‘Niweidiol’

Mae’r rhai sy’n gwrthwynebu’r cynllun yn dweud y byddai’n niweidio twristiaeth yng Nghymru.

“Cefnogaeth, nid rhagor o drethi” sydd eu hangen ar deuluoedd a busnesau, yn ôl Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig.

“Bydd cynlluniau Llafur i gyflwyno treth dwristiaeth a chynnydd posib yn y dreth incwm yn niweidiol i bobol Cymru sy’n gweithio’n galed,” meddai.

Yn 2018, daeth adroddiad Cynghrair Twristiaeth Cymru i’r casgliad y byddai treth o’r fath yn “tarfu ar dwf, cyflogaeth, refeniw a gwyliau”, ac yn bwrw’r rhai mwyaf difreintiedig galetaf.

Wrth drafod y Rhaglen Lywodraeth ehangach, dywed Andrew RT Davies nad yw’n “esgor ar hyder”, tra bod Rhun ap Iorwerth, dirprwy arweinydd Plaid Cymru, yn dweud bod y cynllun “yn denau o ran manylion” a bod “manylion yn absennol”.

Lansio cynllun pum mlynedd ar gyfer Cymru “gryfach, wyrddach a thecach”

Bydd y cynllun yn ‘rhoi’r amgylchedd wrth wraidd popeth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud’