Mae’r Blaid Lafur yn galw ar Lywodraeth Geidwadol Prydain i ddileu’r “rhestr oren” ar gyfer teithwyr, cyn eu cyhuddo nhw o “ddiwylliant o fethiannau”.
Yn hytrach na’r rhestr oren, mae Nick Thomas-Symonds, llefarydd materion cartref Llafur, yn galw am ehangu’r “rhestr goch” a chyflwyno “system gwarantîn go iawn mewn gwestai”.
Daw ei sylwadau ar ddiwrnod dadl Diwrnod y Gwrthbleidiau yn San Steffan ar faterion Covid-19 yn ymwneud â ffiniau.
Yn ogystal, fe fu’n galw am “restr werdd sy’n gallu tyfu’n ddiogel dros gyfnod o amser”, cydweithio â phartneriaid rhyngwladol i gyflwyno pasbort frechu byd-eang a mwy o gefnogaeth i’r diwydiant awyrennau sy’n ddibynnol ar deithwyr.
Mae angen “gweithredu er mwyn gwarchod ein ffiniau rhag bygythiad amrywiolion Covid newydd”, meddai.
“Mae effaith yr hyn gyhoeddodd y prif weinidog neithiwr yn ddinistriol ond nid yn anochel,” meddai.
“Mae’r amrywiolyn Delta yma â’r fath rym oherwydd polisi ffiniau llac y Ceidwadwyr ac mae canlyniadau’r gadwyn honno o ddigwyddiadau’n enfawr.
“Mae’r cyfrifoldeb am dorri’r addewid ynghylch Diwrnod Rhyddid yn gyfangwbl gyda’r Llywodraeth Geidwadol hon.”
Wrth gyfeirio at arwr Boris Johnson, sef y dyn sy’n cadw’r traeth ar agor wrth i’r siarc Jaws ymosod ar bobol, dywedodd Nick Thomas-Symonds fod y prif weinidog “wedi gadael i’r siarc gymryd tolc enfawr allan o economi Prydain yr wythnos hon”.
“Rhy ychydig yn rhy hwyr oedd gweithredoedd y llywodraeth ger y ffin,” meddai.
“Ar ddechrau’r pandemig, dim ond 273 o bobol allan o’r 18 miliwn oedd wedi cyrraedd yn yr awyr aeth i gwarantîn ffurfiol rhwng Ionawr 1 a Mawrth 23 y llynedd.
“Mae polisi ffiniau’r llywodraeth hon wedi bod yn stori o fethiant systemig, nid gadael y drws cefn ar agor i Covid a’i amrywiolion yn gymaint â gadael y drws ffrynt ar agor yr holl amser.”
Rheolau “cadarn ond teg”
Yn ôl Nadhim Zahawi, Gweinidog Brechlynnau Llywodraeth Prydain, mae’r rheolau ar gyfer pobol sy’n cyrraedd gwledydd Prydain “yn gadarn ond yn deg”.
“Rhaid i bobol sy’n cyrraedd o wledydd coch fynd i gwarantîn mewn cyfleuster cwarantîn dan reolaeth am ddeng niwrnod a chael profion ar yr ail ddiwrnod a’r wythfed diwrnod, rhaid i bobol sy’n cyrraedd o wledydd oren hunanynysu yn eu llety eu hunain a bwcio prawf ar gyfer yr ail ddiwrnod a’r wythfed diwrnod, does dim angen cwarantîn ar bobol sy’n cyrraedd o wledydd gwyrdd ond rhaid iddyn nhw gael prawf ar yr ail ddiwrnod neu cyn hynny,” meddai.
“Rhaid i’r holl deithwyr o wledydd coch, oren a gwyrdd gael prawf negyddol cyn teithio.”
Dywed fod y cyhoedd yn cael eu cynghori rhag teithio i wledydd oren megis Ffrainc a Sbaen, yn ogystal â gwledydd coch, a bod yr awdurdodau wedi rhoi 630 o ddirwyon ers Chwefror 1 i gwmnïau awyr sy’n cludo teithwyr heb ddogfennau priodol.
Wrth ymateb i sylwadau Llafur, dywed Huw Merriman, cadeirydd y Pwyllgor Dethol Trafnidiaeth, y byddai’r hyn mae Llafur yn ei gynnig yn golygu “terfyn” ar y diwydiant teithio rhyngwladol.