Mae penderfyniad Llywodraeth y Deyrnas Unedig i ddyrannu cyllid yn uniongyrchol ar gyfer datblygu rhanbarthol a lleol, yn hytrach na gwneud hynny drwy Lywodraeth Cymru, yn ymosodiad clir ar ddatganoli, yn ôl Vaughan Gething.
Dywed Ysgrifennydd yr Economi yn y Senedd heddiw (dydd Mawrth, Mehefin 15) nad yw’r cynlluniau’n bodloni’r addewidion a gafodd eu gwneud yn ystod ymgyrch refferendwm yr Undeb Ewropeaidd na fyddai Cymru “geiniog yn dlotach” ar ôl Brexit.
Yn ôl Vaughan Gething, mae gan Lywodraeth Cymru “fandad cryf o’r newydd ar gyfer datganoli, ac i lywodraethu ar ran pobol Cymru”.
Yn ystod y ddadl yn y Senedd, dywedodd fod “rhaid i Lywodraeth y Deyrnas Unedig beidio â cheisio mynd â phethau’n ôl i’r ffordd hen ffasiwn o weithio pan oedd San Steffan yn credu mai nhw oedd yn gwybod orau”.
“Bydd hyn yn wrthgynhyrchiol,” meddai wedyn.
Y cyllid
Yn ystod dadl am Gronfa Codi’r Gwastad Llywodraeth y Deyrnas Unedig a’r Gronfa Gyffredin, dywedodd Vaughan Gething y bydd gan Gymru lai o gyfle i leisio barn, dros lai o arian, o dan gynlluniau Llywodraeth San Steffan.
Bydd hyn yn rhwystro buddsoddiad yng Nghymru a’r swyddi a fyddai wedi’u creu wrth geisio adfer wedi’r pandemig, meddai.
O dan gynlluniau Llywodraeth y Deyrnas Unedig, mae’r cynllun peilot i’r Gronfa Ffyniant a Rennir, sef Cronfa Adnewyddu’r Gymuned, yn werth £220m ledled y Deyrnas Unedig ar gyfer y flwyddyn ariannol hon.
Pe bai’r Deyrnas Unedig wedi aros yn yr Undeb Ewropeaidd, byddai Cymru wedi cael cyllid Strwythurol newydd yr Undeb Ewropeaidd fyddai’n werth o leiaf £375m bob blwyddyn am saith mlynedd ers Ionawr 2021.
Byddai hynny ar ben cyllid o raglenni presennol yr Undeb Ewropeaidd.
Mae Llywodraeth San Steffan wedi ymrwymo i ddyrchafu pob rhan o Brydain yn economaidd (levelling up), ac mae hi’n gobeithio y bydd y Gronfa Codi’r Gwastad yn cyfrannu at hynny.
Bydd cynghorau sir ledled y Deyrnas Unedig yn medru anfon ceisiadau am gyllid, ac mae pob un sir wedi ei rhannu’n dri grŵp blaenoriaeth gwahanol.
O dan Gronfa Codi’r Gwasanaeth, sy’n werth £4.8bn dros y Deyrnas Unedig, mae £800m wedi’i neilltuo ar gyfer Cymru, yr Alban, a Gogledd Iwerddon dros bedair blynedd.
Mae Cymru’n debygol o dderbyn £10m y flwyddyn, ac mae hyn yn llai nag oddeutu £450,000 fesul awdurdod lleol yng Nghymru, sy’n “cadarnhau nad oes sylwedd tu ôl i frand Codi’r Gwastad” meddai Llywodraeth Cymru.
“Ymosodiad bwriadol ar ddatganoli”
“Mae’r cynigion hyn yn y Deyrnas Unedig yn cynrychioli cyfnod newydd o ganoli ymosodol. Un sy’n cyflwyno neges glir iawn i Gymru: ‘cewch yr hyn a roddir i chi’,” meddai Vaughan Gething.
“Mae’n ddull sy’n ysgogi rhaniad yn seiliedig ar resymeg economaidd sy’n anodd ei ddeall, heb sôn am ei gymeradwyo.
“Yn waeth fyth, mae mynd yn ôl at bolisi economaidd cyn datganoli yn ymosodiad bwriadol ar ddatganoli yng Nghymru. Fel y mae pethau ar hyn o bryd, bydd gan Gymru lai o lais dros lai o arian.
“Gwnaeth Llywodraeth Cymru ein gwrthwynebiad i Ddeddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig yn glir, gan ddadlau mai dim ond mewn ffordd y cytunwyd arni gyda Llywodraeth Cymru a’r Senedd y dylid defnyddio’r pwerau hyn.
“Mae’r cronfeydd arfaethedig wedi’u cynllunio’n glir i eithrio Llywodraeth Cymru yn systematig. Yng nghyd-destun dwyn pwerau, mae hyn yn haerllug o amlwg.
“Dydy effaith yr ymosodiad brwnt hwn ar ddatganoli yng Nghymru ddim hyd yn oed yn cael ei leddfu gyda chynnig o arian ychwanegol newydd i Gymru.
“Ein barn ni o hyd yw y dylid gwneud penderfyniadau am Gymru yng Nghymru. Dyma’r safbwynt sydd wedi ei gefnogi gan bobol Cymru yn gyson, gan gynnwys yn etholiadau Seneddol 2021.”
“Gwrthgynhyrchiol”
Dywed hefyd fod gan Lywodraeth Cymru bryderon am effaith cynlluniau Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar gyfer strategaethau sy’n dibynnu ar gyllid yr Undeb Ewropeaidd nawr fod hwnnw bellach yn dod i ben.
Mae’r rhain yn hanfodol i adferiad Cymru o ran Covid ac heb gyllid gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn lle cyllid yr Undeb Ewropeaidd, mae swyddi a gwasanaethau hanfodol yn cael eu peryglu.
“Mae gan Lywodraeth Cymru fandad cryf o’r newydd ar gyfer datganoli ac i lywodraethu ar ran pobol Cymru,” meddai Vaughan Gething.
“Nid sarhad ar bobol Cymru yn unig yw osgoi sefydliadau etholedig Cymru, bydd yn amlwg yn arwain at ganlyniadau gwaeth i Gymru.
“Os yw Llywodraeth y Deyrnas Unedig o ddifrif ynghylch ffyniant Cymru yn y dyfodol, rhaid iddi roi cyfran deg o wariant y Deyrnas Unedig i Gymru, a gweithio gyda Llywodraeth Cymru a’r Senedd hon nid mewn ffordd annilys, ond fel partner dilys yn y broses o wneud penderfyniadau a chyflawni.”
Galw am gyfarfod pedair gwlad
Yn y cyfamser, mae Gweinidogion Cyllid Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon wedi ysgrifennu at Rishi Sunak, Canghellor y Deyrnas Unedig, yn gofyn am gyfarfod brys er mwyn trafod nifer o faterion, gan gynnwys adferiad ariannol wedi’r pandemig.
“Mae’n hanfodol fod y pedair cenedl yn rhannu gwybodaeth ac yn cyfarfod yn aml er mwyn sicrhau fod Cymru, a gweddill y Deyrnas Unedig, yn adfer ar ôl blwyddyn heriol iawn,” meddai Rebecca Evans, Ysgrifennydd Cyllid a Llywodraeth Leol Cymru.