Mae’r blaid wleidyddol Mebyon Kernow yn galw ar Lywodraeth Prydain i roi pwerau datganoli i Gernyw ac i’w hystyried “yn un o bum cenedl y Deyrnas Unedig”.
Daw hyn ar ôl i arweinwyr gwleidyddol mwya’r byd ymweld â Chernyw dros yr wythnos ddiwethaf ar gyfer Uwchgynhadledd y G7.
Tra bo’r arweinwyr wedi bod yn trafod materion o bwys byd-eang, mae Mebyon Kernow yn dweud eu bod nhw’n “mawr obeithio y byddan nhw’n defnyddio’u hamser yng Nghernyw i gynyddu’r ymdrechion i fynd i’r afael â newid hinsawdd a rhoi hwb i’r ymateb byd-eang i’r pandemig”, yn ôl adroddiadau yn y wasg leol.
“Rhaid i hyn gynnwys cefnogaeth ariannol ar gyfer cyflwyno brechu mewn gwledydd tlotach.”
Wrth droi eu sylw at faterion mwy lleol, dywed Mebyon Kernow eu bod nhw’n “herio Llywodraeth y Deyrnas Unedig i ddefnyddio’r G7 fel cyfle i addo setliad datganoli cynhwysfawr i Gernyw sy’n adeiladu ar le Cernyw fel un o bum cenedl y Deyrnas Unedig”.
Maen nhw hefyd yn galw ar y llywodraeth i wireddu’r amcanion sydd wedi’u hamlinellu yn y Confensiwn Fframwaith ar gyfer Gwarchod Lleiafrifoedd Cenedlaethol.
‘Rhoi Cernyw ar y map’
“Mae’r llywodraeth yn honni y bydd ‘Cernyw gyfan yn elwa o gynnal y G7’, mae nifer o wleidyddion yn siarad am ‘roi Cernyw ar y map’ tra bod cryn dipyn o drafod ynghylch pa waddol fydd yn deillio o’r digwyddiad hwn,” meddai’r blaid wedyn.
“Yn nhermau gwaddol, rydyn ni eisiau gweld gweithredoedd positif a phenodol i drechu tlodi ac anghydraddoldeb y mae cynifer o drigolion Cernyw yn ei wynebu.”
Mae’r blaid yn dweud bod angen “gwneud llawer mwy” na chynnig arian i Gernyw o gronfa drefi ac i wneud gwelliannau amgylcheddol, a bod angen “gwaddol go iawn ar gyfer y genedl Cernyweg gyfan”.
“Rhaid i weinidogion y llywodraeth weld Cernyw fel mwy na chefnlen hardd ar gyfer y G7,” meddai’r blaid wedyn.
“A pha well gwaddol na chydraddoldeb â rhannau Celtaidd eraill y Deyrnas Uendig, megis yr Alban a Chymru, yn nhermau dylanwad a buddsoddiad, a setliad datganoli cynhwysfawr, a fyddai’n cyflwyno Cynulliad neu Senedd i Gernyw?
“Y fath waddol a fyddai’n sicrhau bod gennym y pwerau gwleidyddol i adeiladu dyfodol gwleidyddol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol y gall pawb yng Nghernyw fod yn falch ohono.”