Mae meddygon wedi croesawu cyhoeddiad Llywodraeth Cymru y byddan nhw’n buddsoddi mewn gofal pwrpasol ar gyfer pobol sy’n dioddef o symptomau hirdymor Covid-19 – neu ‘Covid hir’.

Er hynny, mae Cadeirydd Pwyllgor Meddygon Teulu BMA Cymru yn dweud eu bod nhw’n gobeithio gweld buddsoddiad er mwyn dysgu gwersi ynghylch sut i warchod gweithwyr gofal iechyd yn well yn y dyfodol.

Dywedodd Eluned Morgan, Ysgrifennydd Iechyd Cymru, heddiw (dydd Mawrth, Mehefin 15) fod buddsoddi mewn gwasanaethau a rhaglen gymorth benodedig ar gyfer pobol sy’n gwella o effeithiau hirdymor yn “hanfodol”.

Mae’r Ysgrifennydd Iechyd wedi cyhoeddi pecyn cymorth gwerth £5m fel rhan o raglen Adferiad, er mwyn ehangu’r ddarpariaeth o wasanaethau diagnosis, triniaeth, adsefydlu a gofal i bobol sy’n dioddef symptomau hirdymor.

Bydd y dull hwn yn ymateb i ofynion penodol yr unigolyn, ac yn rhoi gofal mor agos at y cartref â phosib, ac mae cymdeithas feddygol BMA Cymru yn dweud y bydd hynny’n “helpu i gwrdd ag anghenion cleifion”.

Y rhaglen

Nod y rhaglen yw lleihau nifer y pwyntiau cyswllt ar gyfer pobol, gan ddarparu mannau cyswllt clir i bobol gefnogi eu hunain os yw’n bosib, neu sicrhau eu bod nhw’n cael mynediad at wasanaethau arbenigol os oes angen ar ôl ymgynghori â’r meddyg teulu.

Bydd y rhaglen Adferiad yn cael ei lansio’n nes ymlaen yr wythnos hon i gyd-fynd â chanllawiau newydd ar gyfer trin effeithiau hirdymor Covid, a bydd hi’n cael ei hadolygu bob chwe mis.

Fe fydd yr arian yn mynd tuag at helpu gweithwyr gofal iechyd i ddatblygu seilwaith i ddarparu gwasanaethau mewn ffordd hyblyg, yn ogystal â darparu hyfforddiant ac adnoddau i helpu i roi diagnosis o Covid hir, ymchwilio iddo a’i drin.

Fel rhan o’r rhaglen, bydd arian yn mynd tuag at fuddsoddi mewn offer digidol a fydd yn darparu data am y galw am wasanaethau a modelu capasiti, gan sicrhau bod y Gwasanaeth Iechyd yn helpu pobol i wneud penderfyniadau cywir o ran eu gofal a’u triniaeth.

“Allweddol”

“Mae wedi bod yn ddiddorol dysgu am sut rydym wedi bod yn mynd i’r afael ag effeithiau hirdymor Covid, gan gynnwys Covid hir ac effeithiau ehangach y pandemig yng Nghymru, a hynny gan weithwyr gofal iechyd ar y rheng flaen a chleifion sydd wedi dioddef o’r feirws ofnadwy hwn,” meddai Eluned Morgan, sydd wedi bod yn cyfarfod â chleifion a chlinigwyr dros yr wythnos ddiwethaf.

“Yng Nghymru rydym wedi ymrwymo i sicrhau llwybrau triniaeth ac adsefydlu wedi’u personoleiddio i ddiwallu anghenion pobl gan ein bod yn credu mai dyma’r ffordd fwyaf effeithiol o ofalu am y bobol sy’n dioddef o effeithiau COVID hir.

“Rydym yn credu y bydd ein rhaglen Adferiad yn allweddol i sicrhau ein bod yn arwain y ffordd o ran gofal cleifion.

“Drwy fuddsoddi mewn staff, seilwaith, hyfforddiant a’r dulliau o ddarparu’r gwasanaethau hyn, rydym yn dangos ein hymrwymiad i wella diagnosis, triniaeth a gofal ar gyfer y rheiny sydd â Covid hir.”

Croesawu’r cyhoeddiad

“Rydyn ni’n croesawu’r cyhoeddiad heddiw fydd yn caniatáu i Feddygon Teulu gyflwyno gofal pwrpasol i gleifion sy’n dioddef gyda symptomau hirdymor Covid-19 gyda chefnogaeth arbenigol,” meddai Phil White, cadeirydd Pwyllgor Meddygon Teulu Cymru sy’n Feddyg Teulu yn y Felinheli.

“Mae’r rhain yn cynnwys blinder parhaus, cyhyrau gwan, colli’r gallu i arogli a blasu a thrafferth canolbwyntio, sydd wedi effeithio ar fywydau pobol yn ein cymunedau.

“Mewn holiadur diweddar i aelodau’r BMA, dywedodd cymaint â thraean o ddoctoriaid eu bod nhw wedi trin cleifion â symptomau Covid tymor hir, ac felly mae’r buddsoddiad hwn yn mynd peth ffordd i gydnabod y pwysau ychwanegol sydd ar ofal sylfaenol, ac yn enwedig ar wasanaethau Meddygon Teulu.

“Mae rhai o’r cleifion hyn yn gydweithwyr mewn gofal iechyd, gan gynnwys staff practis, sy’n parhau’n agored i niwed gan y feirws a’i effeithiau niweidiol.

“Mae salwch ymhlith gweithwyr yn sgil Covid-19 wedi gosod bwrn ychwanegol ar ein gallu i ddarparu gofal i’n cleifion, a gobeithiwn yn y dyfodol y bydd buddsoddiad ychwanegol yn cael ei ddarparu er mwyn dysgu gwersi gan y pandemig, a sut i warchod staff gofal iechyd yn well er mwyn osgoi fod hyn yn digwydd yn y dyfodol.”

“Cynnydd aruthrol” yn nifer y galwadau am wasanaeth Meddygon Teulu

Nifer y bobol sy’n defnyddio ymgynghoriadau electronig “wedi mynd drwy’r to” meddai Dr Phil White