Mae Meddygon Teulu yn wynebu pwysau cynyddol, yn ôl BMA Cymru, ac mae “cynnydd aruthrol” yn nifer y galwadau i feddygfeydd.

Yn ogystal â’r cynnydd mewn galwadau, mae canllawiau Covid yn golygu ei bod hi’n cymryd dwbl yr amser i weld cleifion wyneb yn wyneb, ac felly’n cyfrannu at y pwysau.

Dywedodd Dr Phil White, Cadeirydd Pwyllgor Meddygon Teulu Cymru a Meddyg Teulu yn y Felinheli, wrth golwg360 fod nifer y bobol sy’n cael gweld meddyg ar sgrin cyfrifiadur “wedi mynd drwy’r to”.

Er bod yna fanteision i’r system, mae yna beryglon i’r math yma o system hefyd, meddai.

Yn ôl y BBC, mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda’r BMA i asesu’r gefnogaeth ar gyfer meddygfeydd.

“Cynnydd aruthrol”

“Mae cynnydd aruthrol yn nifer y galwadau rydyn ni’n eu cael o ddydd i ddydd,” meddai Dr Phil White, Cadeirydd Pwyllgor Meddygon Teulu Cymru.

“Gan gleifion sy’n poeni am bob math o bethau, rhai meddygol rydyn ni’n gallu delio gyda, ond mae yna lawer iawn o alwadau o ran lle maen nhw’n sefyll ar restrau aros a phethau tebyg.

“Wrth gwrs, does gennym ni ddim syniad am restrau aros. Mi ddylai’r ysbytai fod yn rhoi ryw fath o linell help i gleifion sydd ar restrau aros, rydyn ni’n teimlo, fel eu bod nhw’n gallu cysylltu â nhw’n uniongyrchol.

“Mae pob galwad yn defnyddio amser,” pwysleisia.

Gweld meddyg dros y We

Bu cynnydd enfawr yn nifer y cleifion sy’n cysylltu ar system electronig, meddai Dr Phil White.

“Rydyn ni’n gweld y rhain wedi mynd trwy’r to, pobol yn danfon pob math o negeseuon bob awr o’r dydd a’r nos.

“Yn aml iawn, pan rydych chi’n ffonio nhw’n ôl ar ddydd Llun mae’r broblem drosodd.

“Mae yna beryglon i’r math yma o system hefyd, rydyn ni wedi gweld cleifion sydd wedi cysylltu drwy’r ffyrdd yma sydd angen gwir farn feddygol yn syth, ond maen nhw’n trio osgoi hynny.

“Mae’r system yn dweud wrthych chi o ran eich symptomau os ddylech chi ddeialu 999, ond mae pobol wedyn yn mynd yn ôl i mewn i’r system ac yn altro eu symptomau ychydig bach fel eu bod nhw ddim yn cael yr ateb yna.

“Mae hynny wedi gwneud lot o waith, oherwydd mae o ar gael 24 awr y diwrnod, saith diwrnod yr wythnos sy’n beryg, mae’n rhaid i fi ddweud,” meddai wrth gyfeirio at y system.

“Mae llawer o feddygfeydd wedi bod yn rhoi hwn off dros y penwythnosau, ac un neu ddau wedi’i droi o off fin nos hefyd.

“Fedrwn ni ddim delio efo pawb saith diwrnod yr wythnos, 24 awr y dydd.”

Esboniodd Dr Phil White fod yr un sefyllfa wedi codi yn Lloegr, a’u bod nhw’n poeni am nifer y galwadau sy’n dod drwy ymgynghoriadau electronig “i’r graddau eu bod nhw wedi penderfynu cael canolfannau yn Lloegr i ddelio efo’r e-referals yma allan o oriau, dros y penwythnos, fel eu bod nhw’n cael eu delio gyda nhw heb ddod ar ein desg ni fore dydd Llun”.

“Yn aml iawn, mae’r galwadau [gan feddygon] yn mynd yn ddiateb oherwydd dydy pobol, falla, ddim yn eu disgwyl nhw, neu wedi anghofio eu bod nhw wedi danfon y peth,” eglurodd.

“Mae angen rhyw fath o system i bobol gysylltu, ond dw i ddim yn siŵr os yw [system fel y canolfannau yn Lloegr] yn creu mwy o waith.

“Er bod yna fanteision i systemau electronig, mae yna anfanteision hefyd – a nifer y galwadau yw’r peth mwyaf o ran anfanteision.”

Cynnydd mewn achosion iechyd meddwl

“Dw i’n credu ein bod ni’n gweld mwy a mwy o achosion salwch iechyd meddwl,” meddai Dr Phil White.

“Mae hwnna wedi cynyddu’n aruthrol yn ystod y cyfnod Covid – pobol dan straen oherwydd falla eu bod nhw wedi colli’u gwaith, neu’n cael llais o bres, ac yn fed up o fod ben eu hunain adref.

“Ond rydyn ni wedi gweld cryn dipyn o iselder, ac iselder sylweddol dim just teimlo dipyn bach yn depressed, pobol sydd efo beth fydden ni’n ei alw’n clinical depression, sydd angen mwy o help.

“Mae galwad fel yna’n cymryd mwy o amser, er efallai eich bod chi’n ei drosglwyddo i dîm iechyd meddwl lleol.

“Mae’n rhaid i chi gael y symptomau lawr, ac efallai trafod triniaeth efo nhw hefyd.

Yn ôl Dr Phil White, mae tua 30% o gleifion sy’n cael apwyntiadau ffôn neu fideo yn cael eu galw mewn i gael archwiliad meddygol wedyn, ac felly mae un mater yn cymryd amser dau apwyntiad.

“Dydyn ni methu gweld y niferoedd roedden ni’n eu gweld cyn Covid, mae’n cymryd dwywaith mor hir rhwng glanhau pob ystafell ar ôl i bobol fod mewn a gwisgo’r PPE yma.”

Byddai dychwelyd at weld pawb wyneb yn wyneb gyda’r canllawiau diogelwch Covid yn “creu rhestrau aros i feddygon teulu”, ychwanegodd Dr Phil White.

“O leiaf mae system teleffon a fideo… rydyn ni’n gallu delio efo mwy, dw i’n credu, nag oedden ni’n delio â chyn Covid.”

Brechiadau

“Ers mis Medi diwethaf, mae meddygon teulu Cymru wedi bod yn gwneud brechiad y ffliw. Rydyn ni wedi curo’r targed mwyaf erioed flwyddyn yma,” eglura Dr Phil White.

“Ac wedyn ym mis Ionawr, fe wnaethon ni ddechrau chwarae rhan yn y brechlynnau Covid. Mae hwnna wedi bod yn creu mwy o waith, yn enwedig ar benwythnosau.

“Felly mae pobol sydd wedi gweithio wythnos lawn wedi bod yn gwneud, falla, un neu ddau o ddiwrnodau bob penwythnos i wneud y brechlynnau yma.

“Mae hynny wedi cynyddu pwysau’r gwaith yn aruthrol.”

“Allan o reolaeth”

“Mae cleifion ar draws Cymru yn cael trafferth cael apwyntiadau wyneb yn wyneb â’u Meddyg Teulu gan fod rhestrau aros yn mynd allan o reolaeth, a phryderon iechyd meddwl yn cynyddu,” meddai Russell George AoS, Gweinidog Iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, wrth ymateb i sylwadau’r BMA am Feddygon Teulu a rhestrau aros.

“Ar hyn o bryd, mae record o 1 ymhob 5 person yn sownd ar restrau aros yn profi poen a gofid diangen wrth ddisgwyl am lawdriniaethau neu driniaeth bosib ar gyfer canser.

“Rydyn ni angen gweld y Blaid Lafur yn cefnogi gweithwyr y rheng flaen ar fwy o fyrder, ac yn gweithredu cynlluniau adfer manwl ar gyfer mynd i’r afael â’r ôl-groniad pryderus hwn.

“Dylai gweinidogion gynyddu’r defnydd o ganolfannau diagnosis sydyn, ac ystyried cyflwyno safleoedd arbenigol i fynd i’r afael â llawdriniaethau cyffredinol cyn gynted â phosib.”

Ymateb Llywodraeth Cymru

“Rydym yn gweithio gyda’r BMA i fonitro ac asesu’r cymorth sydd ei angen ar bractisau i ddarparu rhaglen frechu Covid-19 ac i ddiwallu anghenion iechyd pobl,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

“Tra byddwn yn parhau yn y cyfnod adfer, bydd y cyswllt cychwynnol yn parhau drwy ymgynghoriadau dros y ffôn neu drwy fideo er mwyn lleihau nifer y cleifion sydd y tu mewn i bractisau. Diben hynny yw diogelu staff a chleifion.

“Os oes angen clinigol am ymgynghoriad wyneb yn wyneb, gwneir trefniadau i’r claf fynd i’r Practis.

“Mae iechyd meddwl yn flaenoriaeth i’r llywodraeth hon ac rydym yn parhau i fonitro maint y galw am gymorth.

“Rydym eisoes wedi cryfhau’n sylweddol y cymorth sydd ar gael i bobl y mae arnynt angen cymorth anarbenigol, drwy ddarparu Silvercloud (CBT ar-lein) ar draws Cymru gyfan.

“Rydym hefyd yn darparu llinell gymorth iechyd meddwl genedlaethol C.A.L.L., sy’n llinell y gall pobl ei defnyddio heb gael eu hatgyfeirio gan feddyg teulu.

“Rydym yn gwario mwy ar wasanaethau iechyd meddwl nag ar unrhyw un o feysydd eraill y GIG yng Nghymru, ac rydym wedi diogelu isafswm gwariant o £783 miliwn yn 2021-22 i gefnogi darpariaeth arbenigol ac anarbenigol.”

Mwy o bobol nag erioed ar restrau aros Gwasanaeth Iechyd Cymru

Llywodraeth Cymru’n cyhoeddi buddsoddiad gwerth £100m wrth i ffigurau diweddaraf ddangos bod 18% o boblogaeth y wlad ar restrau aros