Mae mam dyn ifanc o Fôn sydd wedi bod ar goll ers bron i fis, wedi siarad am wewyr y teulu am y tro cyntaf wrth aros am unrhyw newyddion amdano.

Does neb wedi gweld Frantisek ‘Frankie’ Morris, 18, ers iddo gerdded adref o barti yn Waunfawr ar ddydd Sul 2 Mai.

Cafodd ei weld ddiwethaf ar luniau camera cylch cyfyng tafarn y Vaynol Arms ym Mhentir, ger Bangor, yn gwthio ei feic ychydig wedi un y p’nawn. Cafwyd hyd i’r beic yn ddiweddarach.

Wrth ddisgrifio’r wythnosau diwethaf, dywedodd mam Frankie, Alice Morris, wrth Newyddion S4C fod ei “chalon yn torri”.

Yn ei chyfweliad cyntaf ers diflaniad ei mab, dywedodd:

“Mae hyn yn gwbl wahanol i’w gymeriad. Er ei fod yn annibynnol – mae’n hoff o dreulio amser gyda’i ffrindiau dros nos – fydde fo byth yn dweud dim [am le mae o]. Nid dyma pwy ydy o. Dim fel fo – dim o gwbl.”

Wrth ddisgrifio’r wythnosau diwethaf heb unrhyw newyddion am ei mab, dywedodd: “Roedd yn ofnadwy – cwbl dorcalonnus. Achos mae’n fab hyfryd, sy’n llawn gofal – a does dim modd ceisio esbonio’r hyn rydym yn mynd drwyddo o gwbl. Mae’n ofnadwy…. ofnadwy.”

“Pryderus nad yw’n fyw”

Mae Alice Morris yn ofni’r gwaethaf.

“Rwy’n bryderus iawn nad yw’n fyw bellach. Ac os dyna’r achos fe hoffwn fod ei gorff yn cael ei ddarganfod cyn gynted ag sydd yn bosib.”

Apeliodd yn uniongyrchol yn Gymraeg am wybodaeth gan y cyhoedd fyddai o gymorth i’r heddlu ddod o hyd i’w mab:

“Plîs helpwch fi i ffeindio fy mab Frankie. Mae fy nghalon yn torri bo fi ddim yn gwybod ble mae o.”

Mae mam Frankie wedi teithio i Gymru o’r Weriniaeth Tsiec i gynorthwyo yn y gwaith o chwilio am ei mab.

Cafodd tri pherson eu harestio yn gynharach y mis hwn mewn cysylltiad â diflaniad Frankie, un ar amheuaeth o achosi marwolaeth trwy yrru’n beryglus a dau arall ar amheuaeth o wyrdroi cwrs cyfiawnder.

Cyhoeddodd yr heddlu ddydd Iau eu bod bellach wedi diystyru’r tri o’r ymchwiliad.