Mae Heddlu Gogledd Cymru yn parhau i chwilio am Frantisek “Frankie” Morris, 18 oed, o Landegfan, Ynys Môn, yn ardal Pentir, ger Bangor, heddiw (dydd Llun, 17 Mai).
Cafodd ei weld ddiwethaf yn cerdded ym Mhentir tua 1.20yb ddydd Sul 2 Mai ar ôl bod mewn rêf yn ardal Waunfawr.
Roedd Heddlu Gogledd Cymru wedi apelio ar unrhyw un oedd yn y rêf i gysylltu gyda nhw, gan ychwanegu bod modd gwneud hynny yn ddienw.
Dywedodd Ditectif Brif Arolygydd Lee Boycott: “Os wnaethoch fynychu’r rêf a bod gennych unrhyw luniau neu fideo o gwbl ar eich ffôn symudol, neu os oes gennych unrhyw wybodaeth waeth pa mor fach bynnag, a allai ein helpu, gallwch ymweld â’r wefan hon.
“Byddwch yn gallu trosglwyddo gwybodaeth neu lanlwytho delweddau / fideo yn uniongyrchol i’r tîm ymchwilio yn gwbl ddienw.”
Mae’r ffordd rhwng Pont Felin, Pentir, tuag at Waen Wen ynghau am gyfnod amhenodol wrth i’r ymchwiliad barhau, ac mae teithwyr a’r cyhoedd yn cael eu cynghori i gadw draw.
Cafodd dyn ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth ‘Frankie’, tra bod dyn a dynes hefyd wedi’u harestio ar amheuaeth o wyrdroi cwrs cyfiawnder.
Mae un person yn dal i fod yn nalfa’r heddlu, tra bod dau arall wedi cael eu rhyddhau dan ymchwiliad.
Dywedodd y Prif Arolygydd Owain Llewelyn: “Bydd presenoldeb fawr gan yr heddlu ym mhentref Pentir dros y dyddiau nesaf wrth i ni barhau i gynnal chwiliadau.
“Hoffwn ddiolch i’r gymuned leol am eu cefnogaeth a’u dealltwriaeth tra bo’r ffyrdd lleol yn parhau i gael eu heffeithio oherwydd bod yn rhaid i ni eu cau.”
Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.