Bydd cyn-beldroediwr Cymru, Ryan Giggs, yn wynebu achos llys ar gyhuddiad o daro ei gyn-gariad, a’i rheoli drwy gydol eu perthynas, fis Ionawr nesaf.

Mewn gwrandawiad pymtheg munud yn Llys y Goron Manceinion heddiw (Mai 28), cafodd yr achos ei drefnu ar gyfer Ionawr 24 2022.

Honnir bod rheolwr tîm cenedlaethol Cymru wedi ymosod ar Kate Greville, 36, yn ei gartref yn Worsley ym Manceinion ar Dachwedd 1 llynedd, gan achosi niwed corfforol.

Mae Giggs, 47, hefyd wedi’i gyhuddo o’i rheoli rhwng Rhagfyr 2017 a Thachwedd 2020, drwy ddefnyddio trais, ei hynysu, bychanu, cywilyddio, aflonyddu a’i darostwng, ac ymosod arni.

Yn ogystal, mae yn wynebu cyhuddiad o daro chwaer ieuengaf ei gyn-gariad, Emma Greville, yn ystod yr un digwyddiad ar Dachwedd 1.

Mae Giggs wedi gwadu pob cyhuddiad, ac mewn datganiad blaenorol dywedodd ei fod yn “edrych ymlaen at glirio ei enw”.

Bydd yn dweud sut y bydd yn pledio mewn gwrandawiad ar Orffennaf 23, ac mae disgwyl i’r achos llys barhau am dair wythnos yn Ionawr 2022.

Fe wnaeth yr erlyniaeth godi cwestiynau ynghylch y rheithgor, a dywedodd y Barnwr Dean ei fod yn tueddu i gytuno â chyfreithiwr yr amddiffyn a “bod rhaid ymddiried yn y rheithgor fod hyn ddim byd i wneud â phêl-droed nag ymlyniad i dîm cyhoeddus”.

Ychwanegodd y byddai’n fater i farnwr yr achos llys ei ystyried.

“Mae’n amlwg yn siom ei fod [yr achos llys] mor bell yn y dyfodol, ond dyma’r gorau allwn ni ei wneud o dan yr amgylchiadau,” meddai’r Barnwr Dean wrth gyfeirio at ddyddiad yr achos.

Siaradodd Giggs er mwyn cadarnhau ei enw yn unig yn y llys, ac mae yn parhau ar fechnïaeth amodol, nid yw’n cael cysylltu â Kate nag Emma Greville, nag ymweld â’r un cyfeiriadau â nhw.

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cyhoeddi y bydd Robert Page yn rheoli’r tîm yn ystod Pencampwriaeth Ewrop yn yr haf.