Mae bron i 50 o bobol yn hunanynysu yn sgil pum achos o Covid-19 yn ardal Porthmadog, wrth i’r awdurdodau ddisgwyl i weld ai amrywiolyn India sy’n ymledu.
Ymysg y pum achos sydd wedi’u cadarnhau, mae tri ohonyn nhw’n ddisgyblion yn Ysgol Borth-y-Gest, ym mhentref Borth-y-Gest ar gyrion tref Porthmadog, a dau arall yn weithwyr yn Aspire Park and Leisure Homes yn y dref.
Mae aelodau eraill o staff yn hunanynysu fel “rhagofal” yn ôl y cwmni, ac mae’r ysgol wedi gweithredu’n brydlon ac yn cydweithio gyda’r tîm Profi, Olrhain a Diogelu.
“Aros am gadarnhad”
“Ar hyn o bryd rydym yn aros am gadarnhad o ba straen o’r firws sydd wedi achosi pum achos positif yn ardal Porthmadog gan gynnwys y rhai yn Ysgol Borth-y-Gest,” meddai Dafydd Wyn Williams, Cadeirydd Grŵp Gwyliadwriaeth ac Ymateb Covid-19 Aml-Asiantaeth Gwynedd.
“Mae hyn yn arbennig o arwyddocaol gan ystyried y trosglwyddiad cyfredol yn yr amrywiolyn a nodwyd gyntaf yn India mewn nifer o gymunedau ledled Lloegr.
“O ganlyniad i’r achosion positif diweddar hyn, gofynnwyd i 49 o gysylltiadau unigol hunanynysu hyd yma.
“Mae pawb y gofynnwyd iddynt hunanynysu wedi cael eu cynghori i gadw llygad am unrhyw symptomau o’r haint, gan gynnwys peswch parhaus newydd; tymheredd uchel; colli neu newid i arogl neu flas.”
“Rhan i’w chwarae”
Mae Dr Eilir Hughes, sy’n arwain Clwstwr Meddygon Teulu Dwyfor, yn atgoffa trigolion lleol ac ymwelwyr fod ganddyn nhw ran i’w chwarae wrth atal lledaeniad Covid-19.
“Gallent wneud hyn drwy aros yn yr awyr agored pan yng nghwmni eraill, gwisgo gorchudd wyneb, cadw at reolau pellter cymdeithasol a golchi eu dwylo yn rheolaidd,” meddai, gan ddweud ei bod hi’n hanfodol bwysig fod unrhyw un sy’n datblygu symptomau Covid-19 yn hunanynysu ar unwaith ac yn trefnu prawf.
“Dan do, dylent gadw ffenestri a drysau ar agor er mwyn helpu i ddod â’r awyr iach i mewn.
“Mae’r achosion diweddaraf hyn hefyd yn tanlinellu pwysigrwydd fod pob oedolyn yn cael brechiad Covid-19 cyn gynted ag y caiff ei gynnig iddynt gan gynnwys yr ail ddos sy’n atgyfnerthu’r amddiffyniad rhag y firws.”