Mae Heddlu Dyfed Powys wedi cipio gwerth £137,000 o gyffuriau yn ystod wythnos o dargedu ‘county lines‘ yr wythnos ddiwethaf.

Fe wnaethon nhw ddod o hyd i werth £125,000 o herion, £12,000 o gocên, 40 tabled glas, canabis, gwn ffug, cyllell chwe modfedd, a £7,325 mewn arian parod, wrth chwilio 17 o safleoedd gwahanol.

Cafodd deuddeg o bobol eu harestio ar amheuaeth o droseddau’n ymwneud â chyffuriau, gan gynnwys bod â chyffuriau yn eu meddiant, bwriadu gwerthu’r cyffuriau, a bod ynghlwm â’u gwerthu.

Roedd troseddau eraill yn cynnwys gyrru dan ddylanwad, a dreifio er gwaethaf gwaharddiad.

Yn ystod yr wythnos, bu timau’n cynnig cymorth a chyngor i gymunedau hefyd, gan gynnwys ymweld â 38 o bobol sydd wedi, neu mewn perygl o ddioddef troseddau ‘cuckooing’, lle mae troseddwr yn manteisio ar gartref rywun i werth cyffuriau.

Bu’r heddly hefyd yn ymweld â phum coleg a champysau prifysgolion, a chafodd 5,000 o bobol ifanc eu haddysgu am y dull ‘county lines‘ o werthu cyffuriau.

Bu’r timau’n ymweld ag 85 o fusnesau dros yr ardal, gyda 15,000 o landlordiaid preifat ac asiantaethau gosod tai yn cael gwybod am oblygiadau anwybyddu gweithgarwch troseddau posib yn eu heiddo.

Mae’r llu yn amcangyfrif eu bod nhw wedi addysgu dros 20,000 o bobol yn ystod yr wythnos.

“Hynod llwyddiannus”

“Roedd yr Wythnos Dwysau Ymdrechion i Daclo Llinellau Cyffuriau yn hynod llwyddiannus i Heddlu Dyfed Powys, ac fe gawsom ni nifer wych o ganlyniadau diolch i waith rhagweithiol yr heddlu ar draws y pedair is-adran,” meddai Andrew Cotterell, Ditectif Brif Arolygydd Dros Dro Heddlu Dyfed Powys.

“Fe wnaeth gwaith ein timau arwain at gipio cilo o heroin, a swm sylweddol o gocên, cyn iddyn nhw allu cyrraedd ein strydoedd.

“Mae’n anodd meddwl faint o ddinistr fyddai’r holl gyffuriau dosbarth A wedi’u gwneud yn ein cymunedau, ac rydym ni’n falch i amlygu’r ymyrraeth yma i ddefnydd a chyflenwad sylweddau anghyfreithlon.”