Fe fydd cwmni fferi Stena Line yn cynnig teithiau rhwng Caergybi a Belffast er mwyn ymateb i’r galw gan deithwyr.

Bydd y cwmni’n cynnig teithiau penwythnos ar fferi Stena Estrid o Fehefin 25, ac mae disgwyl i’r daith gymryd wyth awr.

Bydd y teithiau’n cludo cyfuniad o nwyddau a theithwyr hamdden.

Yn ôl y cwmni, maen nhw wedi gweld cynnydd sylweddol yn y galw am deithiau o Lerpwl a Dumfries & Galloway.

Bydd teithiau ar gyfer car a gyrrwr ar gael am isafswm o £130, ac mae disgwyl i’r gwasanaeth dros dro bara hyd at Orffennaf 18.

Yn ôl Stena Line, mae’r cynnydd diweddar yn y galw am deithiau’n “galonogol” ar ddechrau’r haf.

“Mae’r cyfyngiadau teithio presennol rhwng Prydain ac Iwerddon wedi creu llawer o alw am deithiau felly gobeithio y bydd ychwanegu’r daith newydd hon yn helpu i gynnig opsiwn arall i bobol sy’n ymweld â ffrindiau, perthnasau neu i gael seibiant yn ogystal â bod yn opsiwn deniadol ar gyfer cwsmeriaid nwyddau.”