Mae ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynnig i gynyddu premiwm y dreth gyngor ar ail gartrefi yn Ynys Môn wedi cychwyn.

Ers Ebrill 2017, mae gan awdurdodau lleol Cymru yr hawl i gyflwyno cost ychwanegol ar ail gartrefi neu eiddo sy’n wag ers amser hir, a chododd Cyngor Sir Ynys Môn y premiwm ar ail gartrefi o 25% i 35% eleni.

Bellach, mae’r Pwyllgor Gwaith yn ystyried codi’r premiwm i 50% o fis Ebrill nesaf.

Mae Cyngor Ynys Môn yn defnyddio £350,000 o’r premiwm bob blwyddyn a hyd yma, maen nhw wedi cynorthwyo dros 90 o drigolion lleol i brynu eu cartref cyntaf.

Heb fod neb yn byw mewn dros 2,000 o gartrefi ar yr Ynys am rannau o’r flwyddyn, byddai’r cyllid ychwanegol yn cael ei ddefnyddio er mwyn helpu pobol leol, yn enwedig pobol ifanc, i brynu tŷ am y tro cyntaf.

Fe wnaeth Cyngor Gwynedd ddyblu’r premiwm i 100% eleni, ac mae’r arian ychwanegol yn cael ei ddefnyddio i gynnig grantiau i bobol leol sy’n prynu tŷ am y tro cyntaf gael adnewyddu tai gwag.

‘Cymorth i fwy o’n pobol ifanc’

“Drwy’r broses ymgynghori hon, byddwn yn gofyn am farn trigolion Ynys Môn, perchnogion ail gartrefi ar yr Ynys a gweithredwyr llety hunanarlwyo am ein bwriad i gynyddu’r premiwm i 50% o fis Ebrill 2022,” meddai’r Cynghorydd Robin Williams, deilydd y portffolio Cyllid.

“Mae’r premiwm presennol ar ail gartrefi eisoes wedi ein cynorthwyo ni i gefnogi rhai o drigolion Ynys Môn i brynu eu tai cyntaf ac i fyw yn eu cymunedau lleol.

“Byddai codi’r premiwm yn ein galluogi ni i roi’r cymorth hwnnw i fwy o’n pobol ifanc er mwyn eu cynorthwyo i brynu eu tai cyntaf, rhywbeth sydd mor anodd ar hyn o bryd oherwydd y prisiau tai uchel.”

Mae’r ymgynghoriad ar agor i drigolion Ynys Môn, perchnogion ail gartrefi ar yr Ynys a gweithredwyr llety hunanarlwyo.

Wrth lenwi’r ymgynghoriad, mae gofyn i bobol nodi eu safbwyntiau am yr effaith mae nifer presennol yr ail gartrefi ac unedau hunanarlwyo yn ei gael ar gymunedau lleol, yr economi leol a’r iaith Gymraeg.

Mae gofyn hefyd a ddylai’r cynnydd arfaethedig yn y premiwm fod yn uwch na’r 50% sy’n cael ei gynnig.

Holl arweinwyr cynghorau sir Plaid Cymru yn galw ar y Prif Weinidog i weithredu ar dai haf

“Mae’n hen bryd symud ar hyn i geisio dylanwadu ar y sefyllfa dai ledled Cymru”

Cynnal protest am y “cynnydd brawychus” yn nifer yr ail gartrefi ar ynys Môn

Lleu Bleddyn

“Mae pobol yn dod yma a dwyn ein tai, yn lladd ein hiaith, ac yn lladd ein cymunedau”