Mae Cyngor Gwynedd yn lansio cynllun grantiau i adnewyddu tai gwag, er mwyn cynyddu cyfleoedd i bobol fedru cael cartref fforddiadwy o fewn eu cymuned.

Bydd y grantiau ar gael i brynwyr tro cyntaf sydd â chysylltiadau lleol â’r ardal lle mae’r tŷ wedi’i leoli.

Pwrpas yr arian fydd rhoi cymorth i bobol sy’n prynu am y tro cyntaf adnewyddu tai gwag er mwyn dod â nhw i safon byw derbyniol.

Fel rhan o’r cynllun, mae modd ymgeisio am hyd at £15,000 tuag at gostau megis ailweirio, ailblymio system gwres canolog, gwaith atal tamprwydd, ffenestri a drysau allanol, ail-doi neu rendro.

Mae Cyngor Gwynedd wedi cynnig grantiau tebyg yn y gorffennol, ond y tro hwn bydd angen i ymgeiswyr fod â chysylltiad â’r ardal.

Daw hyn wedi i arweinydd Cyngor Gwynedd, a’r holl gynghorau eraill sy’n cael eu rhedeg gan Blaid Cymru, ysgrifennu at y prif weinidog Mark Drakeford yn gofyn iddo weithredu ar dai haf.

‘Dinistrio cymuned, ffordd o fyw, a dyfodol ein plant’

“Erbyn hyn, rydan ni gyd yn gwybod bod Gwynedd yng nghanol argyfwng tai. Heb ymyrraeth ar lefel Cymru-gyfan, mae’n argyfwng sy’n mynd i ddinistrio ein cymunedau, ein ffordd o fyw, a dyfodol ein plant,” meddai’r Cynghorydd Craig ab Iago, Aelod Cabinet Tai ac Eiddo Cyngor Gwynedd.

“Rydym yn gobeithio flwyddyn yma y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithredu ar beth sydd angen cael ei wneud i ddatrys y broblem a sydd tu allan i’n grymoedd ni, ond yn y cyfamser, rydym ni yng Nghyngor Gwynedd yn benderfynol ein bod am wneud beth bynnag sydd o fewn ein gallu i daclo’r broblem, rŵan.

“Yn ddiweddar, fe wnaethom ymrwymo i fuddsoddi £77m i mewn i’n Cynllun Tai, i weithredu ar ein gweledigaeth o gartrefu pobl leol yn eu cymunedau, mewn tai gwyrdd, addas a fforddiadwy.

“Un o fy mlaenoriaethau i ydi helpu prynwyr tro cyntaf i gystadlu yn y farchnad dai, a hefyd i daclo’r broblem o nifer y tai gwag sydd gennym yng Ngwynedd.

“Rydan ni’n ceisio helpu i ddatrys y ddwy broblem yma trwy’r grant yma.

“Felly dwi’n falch iawn o fedru lansio’r grant ar gyfer tai gwag.

“Mae’n bwysig cofio bod pob ceiniog o’r £4m yma yn dod o’r premiwm treth cyngor ar ail gartrefi.”

Codi’r premiwm

Fe wnaeth Cyngor Gwynedd godi’r premiwm treth cyngor ar ail gartref i 100% dri mis yn ôl, gan ei ddyblu.

“Roeddwn yn falch iawn o dderbyn y grant tai gwag – ni fyddwn wedi llwyddo i brynu’r tŷ heb y cymorth i’w ddatblygu sydd wedi fy ngalluogi i fod yn berchen tŷ am y tro cyntaf a byw yn y gymuned lle cefais fy magu,” meddai un preswylydd, a wnaeth elwa o’r grant yn y gorffennol.

“Mae hwn yn gynllun gwych ac mae’r broses o ymgeisio yn rhwydd – byddwn yn annog unrhyw un sydd yn gymwys i fynd amdano.”

Mae mwy o wybodaeth am y grant ar gael ar wefan Cyngor Gwynedd.

Llywodraeth Cymru am ymateb “yn gyflym” i’r argyfwng tai haf, yn ôl Gweinidog y Gymraeg

Iolo Jones

“Gall y cynnydd yn y siaradwyr ddim digwydd ar draul gwarchod cymunedau yn y gorllewin, ac yn y gogledd falle, lle mae’r Gymraeg yn brif iaith”

Holl arweinwyr cynghorau sir Plaid Cymru yn galw ar y Prif Weinidog i weithredu ar dai haf

“Mae’n hen bryd symud ar hyn i geisio dylanwadu ar y sefyllfa dai ledled Cymru”