Bydd lleoliadau sy’n cynnal priodasau ac atyniadau dan do yn cael gwneud cais am £2.5m ychwanegol gan Lywodraeth Cymru.
Daeth y cyhoeddiad gan Vaughan Gething, Ysgrifennydd yr Economi, yng nghynhadledd Llywodraeth Cymru heddiw (dydd Llun, Mehefin 14).
Ers Mai 17, mae busnesau sydd wedi cael eu heffeithio gan y cyfyngiadau yn gallu gwneud cais am gymorth brys hyd at ddiwedd y mis yma.
Ond fe fydd rhagor o gefnogaeth ar gael er mwyn ymateb i heriau amrywiolyn Delta wrth iddo gael effaith ar gyfraddau heintio yng Nghymru.
Bydd lleoliadau’n gallu gwneud cais am swm o arian rhwng £875 a £5,000 yn dibynnu ar faint y lleoliad hwnnw.
‘Effaith ar fusnesau’
“Fy mlaenoriaeth fel Gweinidog yr Economi yw sicrhau bod Llywodraeth Cymru’n barod i danio adferiad Cymreig cryf gyda’r gefnogaeth gywir ar gyfer busnesau a gweithwyr Cymreig,” meddai Vaughan Gething.
“Dros yr wythnosau diwethaf, wrth i’r cyfyngiadau gael eu codi’n raddol, rydym wedi gweld nifer o elfennau o’n hen fywydau’n agor eto mewn ffordd Covid-ddiogel.
“Ni all hyn ond bod yn newyddion da i’n heconomi.
“Fodd bynnag, rydym yn gwybod, er gwaethaf ein llwyddiant wrth reoli cyfraddau Covid-19 a chychwyn ein rhaglen frechu, fod yr amrywiolyn Delta yn parhau i gynnig heriau newydd.
“Mae’n golygu y bu angen i ni gymryd dull graddedig wrth symud at Rybudd Lefel Un, gan lacio cyfyngiadau ynghylch digwyddiadau a gweithgareddau tu allan yn gyntaf, oherwydd mae’r dystiolaeth yn awgrymu bod y gyfradd heintio’n sylweddol is tu allan na thu mewn.
“Tra mai hyn yw’r penderfyniad cwbl gywir i Gymru, rydym yn cydnabod yr effaith y bydd yn ei chael ar nifer sylweddol o’n busnesau.
“Heddiw, rwy’n cyhoeddi arian pellach i’r busnesau hynny yng Nghymru – megis lleoliadau priodasau ac atyniadau dan do – i’w helpu â’u costau o ganlyniad i symud yn raddol tuag at Rybudd Lefel Un oedd yn angenrheidiol oherwydd risg yr amrywiolyn Delta.”
“I bobol sy’n mynd allan ac yn mwynhau cefnogi Cymru, gobeithio y cawn ni wythnosau eto o gefnogi ein tîm cenedlaethol ym Mhencampwriaeth Ewrop y dynion,” meddai.
“Plis gwnewch y peth cywir i gefnogi Cymru ar y cae, wrth i ni wylio’r chwaraewyr yn gwneud eu gorau glas dros eu gwlad, ac oddi ar y cae, cefnogwch Gymru drwy wneud y peth cywir.
“Po fwya’ o gyswllt gawn ni gyda mwy o bobol, bydd hynny’n fwy heriol ac rydyn ni’n gwybod y bydd yn debygol o arwain at fwy o achosion.
“Dydyn ni ddim eisiau bod mewn sefyllfa lle mae busnesau lletygarwch, sydd wedi cael amser anodd dros ben ac yn gwneu eu gorau glas i sicrhau ein bod ni’n gweithio o fewn y rheolau angenrheidiol sydd gennym yn eu lle, mewn sefyllfa lle mae angen mynd i mewn i reoleiddio’r hyn sy’n digwydd yn y llefydd hynny.
“Byddai’n anffodus iawn, nid dyna’r peth iawn i’r busnesau lletygarwch ac nid dyna’r peth iawn i bawb ohonom sy’n gefnogwyr Cymru ac sydd eisiau i dîm Cymru wneud yn arbennig o dda ar y cae pêl-droed ac oddi ar y cae hefyd gyda’r frwydr barhaus sydd gyda ni yn erbyn Covid-19.”
Amrywiolyn Delta
Yn y cyfamser, daeth cadarnhad gan Vaughan Gething fod 315 o achosion o amrywiolyn Delta wedi’u cofnodi yng Nghymru erbyn hyn.
Dywed fod yr amrywiolyn wedi arwain at gamau graddedig tuag at lacio’r cyfyngiadau, a bod cyfyngiadau tu allan yn cael eu llacio’n gyntaf ar sail tystiolaeth wyddonol am ymlediad y feirws.