Mae Aelod Seneddol fu’n feirniadol o ddatganoli yn gorfod ymddiheuro am ymddwyn yn fygythiol tuag at aelodau staff yn San Steffan.

Fe wnaeth y Comisiynydd Safonau Seneddol, Kathryn Stone, ddechrau ymchwiliad gan ddarganfod fod Daniel Kawczynski wedi “camddefnyddio ei rym” fel Aelod Seneddol wrth wneud “honiadau milain wedi’u gorliwio” ac “ymddwyn yn fygythiol”.

Roedd y cwynion yn ei erbyn yn ymwneud â digwyddiad ar Ebrill 27, 2020 pan gafodd drafferth i ymuno â chyfarfod pwyllgor rhithiol yn sgil problemau technegol.

Dywedodd Cadeirydd y Panel Arbenigol Annibynnol, Syr Stephen Irwin, fod trafferthion technolegol ar ddechrau’r pandemig yn “anodd i bawb”.

Clywyd fod Kawczynski AS yr Amwythig ac Atcham wedi “yfed cryn dipyn o alcohol” ar y diwrnod a’i fod wedi ffonio rheolwr y pwyllgor staff tra roedd dan ddylanwad, ymddygiad a oedd yn “afresymol ac amrhroffesiynol.”

“Tra ein bod ni’n llawn ddeall fod bywyd AS yn gallu bod yn llawn pwysau, nid yw’r cyfrifoldebau a’r pwysau yn cyfiawnhau colli cwrteisi, bwlio, na chynyddu’r ymdeimlad o bwysigrwydd,” ychwanegodd.

Llynedd, fe wnaeth Daniel Kawczynski, sy’n aelod o’r Blaid Geidwadol, alw am ddiddymu’r Senedd, ac mae e’n gwrthwynebu datganoli.

Yn y gorffennol, roedd yr AS chwe troedfedd naw modfedd o daldra, yn gymorthydd seneddol i’r Cyn Ysgrifennydd David Jones, er gwaethaf ei fod yn cynrychioli etholaeth yr ochor arall i’r ffin.

Fis Mai’r llynedd fe alwodd am ddiddymu’r Senedd gan fod y rheolau Covid-19 yn ei rwystro rhag mynd i un o draethau Cymru.