Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi dweud eu bod nhw am fynd ati i ddatblygu fframwaith polisi i amddiffyn a safoni’r defnydd o enwau lleoedd gan yr Awdurdod.

Ar ôl prysurdeb yr haf, bydd y Parc Cenedlaethol yn codi ymwybyddiaeth ymhlith gwahanol gynulleidfaoedd, lleol a rhyngwladol, am bwysigrwydd enwau lleoedd yn Eryri hefyd.

Yn ogystal, bydden nhw’n anelu at drafod pwysigrwydd enwau fel ffynonellau sy’n cryfhau cysylltiadau ag amgylchedd, hanes, a threftadaeth yr ardal.

Daw hyn wedi i’r Awdurdod dderbyn deiseb yn galw am ddefnyddio enw’r Wyddfa yn unig wrth gyfeirio at fynydd uchaf Cymru.

Cafodd y ddeiseb ei chyflwyno gan Elfed Wyn ap Elwyn i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri heddiw (14 Mehefin), gyda dros 5,000 o lofnodion gan bobol dros y byd arni.

“Cam cadarnhaol”

Ddiwedd mis Ebrill fe wnaeth Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri ystyried cynnig gan John Roberts a oedd yn cynnig fod y parc yn defnyddio ei enw Cymraeg yn unig, ac yn cefnu ar Snowdonia National Parc, yn ogystal â Snowdon.

Penderfynodd Aelodau’r Awdurdod nad oedd angen ystyried cynnig y Cynghorydd John Roberts ar y pryd, gan fod y Grŵp Tasg a Gorffen wedi cael ei apwyntio’n barod ac yn dilyn ystyriaeth flaenorol oedd yn argymell sefydlu a mabwysiadu canllawiau ynghylch defnydd enwau lleoedd.

Fe wnaeth hynny arwain at lawer o sylw, a theimladau cryf gydag Elfed Wyn ap Elwyn yn dechrau’r ddeiseb.

“Mae ymosodiadau tuag at yr iaith Gymraeg yn rhywbeth cyson bellach, gwelir hyn yn y ffordd mae enwau tai ac ardaloedd yn cael eu newid o’r Gymraeg,” meddai Elwyn Wyn ap Elwyn o Gymdeithas yr Iaith.

“Teimlaf i a llawer o bobl eraill y byddai defnyddio enwau ‘Eryri’ ac ‘Yr Wyddfa yn gam cadarnhaol tuag at ddangos pwysigrwydd yr iaith Gymraeg.”

“Ymrwymo i warchod a hyrwyddo”

“Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi ymrwymo i warchod a hyrwyddo enwau lleoedd brodorol ar gyfer defnydd dyddiol ac ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol,” meddai Wyn Ellis Jones, Cadeirydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.

“Un o amcanion y grŵp Tasg a Gorffen fydd nodi sut mae llwyddiant defnydd yr enwau lleoedd yn edrych.

“Mae bywiogrwydd yr iaith Gymraeg yn un o rinweddau arbennig Eryri ac rydym yn angerddol dros barchu a gwarchod ein cymunedau, ein diwylliant a’n hiaith.”

Yr Wyddfa ac Uluru – galw am gefnu ar enw Saesneg mynydd uchaf Cymru

Iolo Jones

Cynghorydd sir yn cyfeirio at Awstralia wrth gynnig ei ddadleuon

Tudur Owen: ‘Stopiwch alw fo’n Snowdon!’

“Mae o’n swnio fatha rhywbeth buasa’ Walt Disney wedi’i ddychmygu,” meddai’r digrifwr