Mae disgwyl i fanylion cytundeb masnach cyntaf y Deyrnas Unedig ers Brexit gael eu cyhoeddi heddiw (Mehefin 15), yn ôl gweinidog yn Awstralia.
Yn ôl adroddiadau mae’r ddwy wlad wedi cytuno ar ddel, gyda gweinidog amaeth Awstralia, David Littleproud, yn dweud wrth ohebwyr yn Canberra y bydd rhagor o wybodaeth yn cael ei gyhoeddi yn Llundain tua 9am bore ma (Dydd Mawrth).
“Fe fydd y ddau brif weinidog yn dod at ei gilydd yn Llundain i sicrhau eu bod nhw’n cael ei gyhoeddi ond mae’r manylion terfynol yn cael eu trafod nawr,” meddai David Littleproud.
Mae’n debyg bod Boris Johnson a phrif weinidog Awstralia, Scott Morrison, wedi dod i gytundeb dros ginio yn Downing Street ddydd Llun (Mehefin 14).
Nid yw Downing Street wedi gwadu’r adroddiadau, ac os ydyn nhw’n cael eu cadarnhau dyma fyddai’r cytundeb masnach cyntaf i gael ei gytuno’n llawn ers i’r DU adael yr Undeb Ewropeaidd.
Trydarodd prif weithredwr Siambr Fasnach Prydain ac Awstralia David McCredie y byddai’r cytundeb yn creu “nifer o gyfleoedd gwych ar gyfer masnach, buddsoddi a chydweithio.”
Ond mae arweinwyr diwydiant wedi mynegi pryderon am safonau bwyd tra bod ffermwyr yn ofni y bydd eu prisiau’n gostwng o ganlyniad i fewnforion rhatach.
Mae’n debyg bod rhwyg yn y Cabinet hefyd rhwng yr Ysgrifennydd Masnach Ryngwladol, Liz Truss, ac Ysgrifennydd yr Amgylchedd George Eustice, sy’n poeni am yr effaith ar ffermwyr.
Yn y cyfamser mae’r gweinidog yn Swyddfa’r Cabinet Michael Gove yn poeni y gallai cytundeb arwain at alwadau am annibyniaeth i Gymru a’r Alban.