Fe fydd angladd Frankie Morris, 18, o Landegfan, Ynys Môn yn cael ei gynnal heddiw (Dydd Mawrth, Mehefin 15).

Cafwyd hyd i gorff Frantisek Morris, a oedd yn cael ei adnabod fel Frankie,  mewn coedwig yn ardal Caerhun ger Bangor ar Fehefin 3.

Doedd neb wedi ei weld ers Mai 2 pan oedd yn gwthio’i feic heibio i dafarn ym Mhentir, ger Bangor, tua dwy filltir o’r goedwig, ar ôl bod mewn parti mewn chwarel yn Waunfawr y noson gynt.

Fe fydd ei angladd yn cael ei gynnal yn Amlosgfa Bangor heddiw am 1.30yp.

Mae’r teulu wedi gofyn i bobol beidio â gwisgo du.

O ganlyniad i gyfyngiadau Covid-19, dim ond 24 o deulu a ffrindiau fydd yn cael mynd i’r angladd, ond mae croeso i bobol dalu teyrnged i Frankie Morris y tu allan.

Cwest

Cafodd cwest i farwolaeth y dyn 18 oed ei agor wythnos ddiwethaf.

Dydy’r heddlu ddim yn trin ei farwolaeth fel un amheus.

Clywodd gwrandawiad ar Fehefin 8 fod archwiliad post-mortem yn awgrymu ei fod wedi marw o ganlyniad i gywasgiad ar y gwddw yn sgil crogi.

Mae’r gwrandawiad wedi’i ohirio tra bod ymchwiliadau’n parhau, ac mae disgwyl i gwest llawn gael ei gynnal ym mis Medi.