Mae dros 1,000 o bobol wedi arwyddo deiseb sy’n galw ar Lywodraeth Cymru i roi bonws i athrawon sy’n marcio asesiadau dros yr haf.

Ysgolion a cholegau sy’n marcio asesiadau TGAU a Safon Uwch eleni, ar ôl i arholiadau gael eu canslo yn sgil y pandemig.

Yn ôl Lisa Williams, athrawes uwchradd o Abercynon, yn Rhondda Cynon Taf, doedd athrawon “ddim yn disgwyl y gwaith llafurus a beichus yma”.

“Mae hyn ar ben dysgu amserlen arferol a marcio gwaith dysgwyr eraill,” meddai mewn datganiad sydd ynghlwm â’r ddeiseb.

“Mae rhai athrawon ond wedi cael eu rhyddhau am un awr i gyflawni’r gwaith sydd yn anochel felly wedi gorfod cael ei gwblhau ar ôl oriau gwaith ac ar y penwythnos.”

‘Ddim yn ddigonol’

Yn Yr Alban, mae athrawon a darlithwyr sy’n rhan o’r broses o farcio a safoni asesiadau eleni yn derbyn bonws o £400.

Ar ben hynny, mae athrawon yn cael deuddydd wedi’i ddynodi er mwyn eu helpu i gyflawni’r gwaith.

Hoffai Lisa Williams weld rhywbeth tebyg yn digwydd yng Nghymru.

“Dw i’n gofyn i Lywodraeth Cymru dalu bonws i athrawon sydd wedi bod yn marcio’r holl asesiadau ‘ma ac yn gwneud yr holl waith gweinyddol ychwanegol ar ben dysgu amserlen arferol a marcio gwaith Cyfnod Allweddol 3,” meddai Lisa Williams wrth raglen ‘Dros Frecwast’ BBC Radio Cymru.

“Rydyn ni’n cytuno ein bod ni eisiau’r gorau ar gyfer ein disgyblion, ac maen nhw’n haeddu’r graddau am y gwaith caled maen nhw wedi’i wneud yn ystod y pandemig, a ni sy’n nabod ein disgyblion ni orau.

“Ond i fod yn hollol onest doedden ni ddim yn disgwyl y gwaith llafurus a beichus yma.

“Nid yn unig ydyn ni wedi gorfod paratoi asesiadau ond rydyn ni wedi gorfod gwneud llawer o hyfforddi ychwanegol hefyd.

“Mae ysgolion wedi derbyn arian i ryddhau staff oddi ar yr amserlen i farcio ac yn y blaen – a does dim bai ar ysgolion – ond dyw’r oriau ddim wedi bod yn ddigonol i nifer o staff.”

“Cydnabod ymrwymiad ac ymdrech aruthrol athrawon”

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Rydym yn llwyr gydnabod ymrwymiad ac ymdrech aruthrol athrawon, darlithwyr a’r holl staff yn ein lleoliadau addysg i gefnogi dysgwyr drwy gydol y pandemig.

“Rydym wedi darparu mwy o gyllid yn gyfrannol nag unrhyw genedl arall yn y Deyrnas Unedig, gwerth dros £9m, i gefnogi ysgolion a cholegau gyda’r broses asesu.

“Bydd hyn yn helpu i recriwtio staff ychwanegol, tra’n gweithio mewn partneriaeth ag athrawon i gynllunio proses asesu sy’n amharu cyn lleied â phosibl ar wyliau’r haf.”