Mae lefel diweithdra yng Nghymru wedi gostwng i 4.3%, yn ôl y ffigurau diweddaraf, sy’n golygu bod 66,000 o bobl dros 16 oed yn ddi-waith.
Mae hyn yn is na’r ffigwr ar draws y Deyrnas Unedig sy’n 4.7%.
Rhwng mis Chwefror ac Ebrill roedd 28,000 yn rhagor o bobl yn gweithio yng Nghymru o’i gymharu â’r tri mis blaenorol. Serch hynny, mae 19,000 yn rhagor o bobl yn ddi-waith o’i gymharu â llynedd pan ddechreuodd pandemig y coronafeirws.
Mae gostyngiad mawr wedi bod hefyd yn nifer y bobl sydd ddim yn gweithio neu ddim yn gallu gweithio.
Yn y tri mis hyd at fis Ebrill, roedd 32,000 yn llai o bobl yn y categori yma yng Nghymru o’i gymharu â’r tri mis cyn hynny.
Swyddi
Ar draws y DU, mae nifer y swyddi wedi codi i’w lefel uchaf ers cyn y pandemig.
Rhwng mis Mawrth a Mai, wrth i’r economi ail-ddechrau, roedd 24% yn fwy o swyddi ar gael o’i gymharu â’r tri mis blaenorol.
Mae cyflogau hefyd yn cynyddu ar raddfa o tua 5.6%.
Fe fu cynnydd yn nifer y bobl sy’n cael eu cyflogi yn y sector cyhoeddus, yn enwedig yn y gwasanaeth iechyd a llywodraeth ganolog y DU.