Fe fu cynnydd bach yn nifer y marwolaethau sy’n gysylltiedig â Covid-19 a gafodd eu cofrestru, yn ôl ffigurau newydd ond fe allai’r nifer fod wedi’i heffeithio gan yr ŵyl banc hwyr ym mis Mai.

Cafodd cyfanswm o 98 o farwolaethau eu cofnodi yn yr wythnos hyd at Fehefin 4, lle mae Covid-19 yn cael ei nodi ar y dystysgrif farwolaeth, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS). fe fu 2 farwolaeth yng Nghymru yn yr wythnos hyd at Fehefin 4 a hynny mewn ysbytai yn Wrecsam a Phowys.

Mae’n gynnydd o 3% – roedd 95 o farwolaethau yn yr wythnos flaenorol.

Ond yn ôl yr ONS fe fyddai llawer o swyddfeydd cofrestru wedi bod ynghau dros ŵyl y banc ar Fai 31. Fe allai hyn fod wedi effeithio cyfanswm y marwolaethau gafodd eu cofnodi yn yr wythnos, gan olygu bod yna ansicrwydd am y cyfanswm yn gyffredinol.

Dyma’r ail dro yn unig i nifer y marwolaethau wythnosol fod o dan 100 ers mis Medi’r llynedd, ac mae’n un o’r ffigurau isaf ers dechrau’r pandemig.

Bellach mae cyfanswm o 153,493 o farwolaethau wedi bod yn y Deyrnas Unedig sy’n gysylltiedig â Covid-19, meddai’r ONS.