Mae Boris Johnson wedi cytuno ar delerau cyffredinol cytundeb masnach rydd gydag Awstralia, y cytundeb gyntaf i gael ei ffurfio o’r newydd ers Brexit.
Dywedodd y Prif Weinidog ei bod hi’n nodi “gwawr newydd” yn y berthynas rhwng y Deyrnas Unedig ac Awstralia, gyda nwyddau fel ceir, wisgi o’r Alban, a bisgedi yn gallu cael eu gwerthu’n rhatach yn sgil y cytundeb di-dariff.
Cafodd y cytundeb ei gyhoeddi heddiw (Mehefin 15) er gwaethaf pryderon gan ffermwyr ar y ddwy ochr ynghylch y fargen.
Mae arweinwyr yn y diwydiant amaeth wedi codi pryderon am safonau bwyd, a ffermwyr yn ofni y bydden nhw’n cael eu tanbrisio gan nwyddau rhatach o Awstralia.
“Prydain fyd-eang ar ei gorau”
Wrth gyhoeddi’r cytundeb, dywedodd Downing Street y bydd cap ar fewnforion di-dariff am bymtheg mlynedd, ac y bydd mesurau “diogelu” eraill yn cael eu cyflwyno i warchod ffermwyr y Deyrnas Unedig.
Mae’r cytundeb hefyd yn dweud fod pobol ifanc dan 35 oed o’r Deyrnas Unedig yn cael mwy o ryddid i deithio a gweithio yn Awstralia.
“Mae heddiw’n nodi gwawr newydd ym mherthynas y Deyrnas Unedig gydag Awstralia, gyda gwerthoedd cyffredin a hanes rydyn ni’n ei rannu’n sail,” meddai Boris Johnson.
“Mae ein cytundeb masnach rydd newydd yn agor cyfleoedd anhygoel i fusnesau a chwsmeriaid Prydeinig, yn ogystal ag i bobol ifanc sydd eisiau’r cyfle i weithio a byw ar ochr arall y byd.
“Dyma Brydain fyd-eang ar ei gorau – yn edrych allan ac yn taro ar fargeinion sy’n dyfnhau’r berthynas gyda’n cynghreiriau, ac sy’n helpu i sicrhau fod pob rhan o’r wlad yn adeiladu’n ôl yn well wedi’r pandemig.”
“Safonau uchaf posib”
Mae rhai gweinidogion yn y Cabinet wedi codi pryderon am y fargen, gydag Ysgrifennydd yr Amgylchedd, George Eustice, yn poeni am yr effaith ar ffermwyr.
Yn ôl Boris Johnson, bydd y cytundeb yn cadw at y safonau llesiant anifeiliaid “uchaf posib”.
“Rydyn ni’n agor i Awstralia, ond rydyn ni’n gwneud hynny mewn ffordd raddol ac rydyn ni’n gwneud hynny dros bymtheg mlynedd,” meddai pan ofynnwyd iddo beth mae’r fargen yn ei golygu i ffermwyr.
“Rydyn ni’n cadw mesurau diogelu, yn gwneud yn siŵr fod gennym ni warchodaeth yn erbyn cynnydd sydyn mewn nwyddau, ac yn gwneud yn siŵr ein bod ni’n cadw at y safonau llesiant anifeiliaid uchaf posib.
“Fel y gallwch chi ddychmygu, dyna beth mae cwsmeriaid Prydeinig am fod eisiau.”
Dywedodd Scott Morrison, Prif Weinidog Awstralia, fod safonau Awstralia yn “uchel iawn”, a’u bod nhw’n “hyderus ac yn falch” o’u record yn delio gyda chreulondeb yn erbyn anifeiliaid.
Mewn datganiad, dywedodd Downing Street y byddai’r fargen yn helpu distyllwyr gan gael gwared ar dariffau o hyd at 5% ar wisgi o’r Alban.
Dywedodd fod dros 450 o fusnesau yng Nghymru wedi allforio cynnyrch i Awstralia llynedd, a bod disgwyl i “gwmnïau gwyddoniaeth bywyd a chynhyrchwyr cemegau elwa”.
Mae’r gweinidog yn Swyddfa’r Cabinet, Michael Gove hefyd yn ofni y gallai’r cytundeb gynyddu’r galwadau am annibyniaeth i Gymru a’r Alban.
“Anodd iawn” gweld manteision
Mae NFU Cymru wedi dweud ei bod hi’n “anodd iawn” gweld manteision posib y cytundeb i ffermydd teuluol Cymru ar hyn o bryd, tra bod yr effeithiau negyddol yn llawer mwy amlwg.
Dywed yr undeb fod rhaid iddyn nhw weld y manylion llawn cyn deall yn llawn werth y mesurau diogelu fydd yn cael eu defnyddio gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig i warchod ffermwyr rhag cynnyrch sydd wedi’i greu i safonau gwahanol.
“Mae NFU wedi nodi ei phryderon y gallai’r cytundeb masnach yma ag Awstralia effeithio er gwaeth ar ein hamcanion i dyfu’r diwydiant bwyd a diod Cymreig, sydd werth £7.5bn, yn gynaliadwy,” meddai John Davies, Llywydd NFU Cymru.
“Yn llawn mor bwysig, mae gennym ni bryderon gwirioneddol am effaith cymdeithasol a diwylliannol y cytundeb masnach hwn a allai effeithio’r iaith Gymraeg a’r diwylliant – pethau na ellir eu mesur mewn GDP ond sydd, er hynny, yn rhan ganolog o wneuthuriad ein cymunedau a’n treftadaeth.
“Does dim amheuaeth fod y cyhoeddiad heddiw am y cytundeb masnach, boed yn raddol neu ddim, yn arwydd o fwriad Llywodraeth y Deyrnas Unedig am bartneriaethau masnach yn y dyfodol, ac mae yna beryg gwirioneddol fod yna gynsail wedi’i osod.
“Mae angen i Lywodraeth y Deyrnas Unedig gyfathrebu manylion llawn y cytundeb mewn egwyddor a chynnig asesiad trylwyr o’i effeithiau heb oedi.”
‘Cyff gwawd’
Wrth lofnodi’r cytundeb masnach hwn, mae Boris Johnson wedi gwneud targedau newid hinsawdd Cymru yn “gyff gwawd” ac wedi tanseilio hyfywedd hirdymor y sector amaethyddol, yn ôl Liz Saville-Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan.
“Er bod cig eidion a chig oen Cymru ymysg y mwyaf cynaliadwy yn y byd, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cyflymu cytundeb fydd yn gweld cynnyrch a fagwyd i safonau amgylcheddol is o lawer yn cael eu cludo dros y môr neu’r awyr hanner ffordd rownd y byd i’n marchnadoedd ni.
“Mae hyn yn mynd yn hollol groes i nod honedig Boris Johnson o arwain y byd trwy weithredu ar hinsawdd.
“Yn waeth fyth, mae’r cytundeb hwn yn gosod cynsail peryglus at y dyfodol. Trwy ildio i amodau Awstralia, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi agor y drws i gynhyrchwyr cig diwydiannol enfawr megis Brasil ac UDA ddisgwyl amodau ffafriol tebyg.
“Gŵyr y Torïaid am y difrod y bydd hyn yn achosi, ond maent wedi penderfynu bod cipio pwerau a phenawdau iddynt eu hunain yn bwysicach na datgelu eu cytundebau masnach i oleuni craffu.
‘Er lles cenedlaethau’r dyfodol, rhaid i Lywodraeth y Deyrnas Unedig wrthweithio fel mater o frys eu penderfyniad byrbwyll a gadael i’r Senedd ddatgelu oblygiadau llawn y cytundeb masnach hwn a phob cytundeb masnach yn y dyfodol.”