Mae dros 400 o ddisgyblion yn hunanynysu yn Sir Ddinbych yn sgil 25 achos sy’n gysylltiedig â chynnydd mewn achosion yn y sir.

Er nad yw pob un o’r 25 achos wedi’u cadarnhau fel amrywiolyn Delta, mae rhai ohonyn nhw wedi’u nodi felly.

Mae’r achosion cysylltiedig wedi’u cysylltu â nifer o bobol yn ymgynnull, ac wedi’u nodi mewn nifer o leoliadau, gan gynnwys ysgolion.

Rhwng Ysgol Brynhyfryd yn Rhuthun, Ysgol Uwchradd Dinbych, a St Brigid yn Ninbych mae 428 o ddisgyblion yn hunanynysu ar hyn o bryd.

Profion

Yn sgil y cynnydd mewn achosion yn Sir Ddinbych, mae’r awdurdodau yn dweud ei bod hi’n hanfodol nad yw preswylwyr yn ymgynnull gyda phobol eraill mewn ffyrdd sy’n mynd yn groes i ganllawiau’r llywodraeth.

Mae’r Tîm Rheoli Achosion yn gweithio i reoli’r sefyllfa ar hyn o bryd, ac mae gofyn i unrhyw un sy’n dangos symptomau i archebu prawf PCR ar unwaith.

Mae uned profi symudol ychwanegol wedi’i lleoli yng Nghaledfryn, Dinbych, tra bod canolfannau profi ym maes parcio Stryd y Cei yn y Rhyl, ac ym maes parcio Stryd y Farchnad yn Llangollen. Rhaid archebu lle yn y safleoedd hyn.

Yn ogystal, mae posib cael profion llif unffordd am ddim o HWB Dinbych o heddiw ymlaen (15 Mehefin).

“Glynu wrth y canllawiau”

“Mae ymholiadau’n dal i gael eu gwneud ac mae canlyniadau profion pellach yn yr arfaeth a hoffem sicrhau preswylwyr ein bod yn gweithio i leihau unrhyw ledaeniad pellach,” meddai Nicola Stubbins, Cadeirydd y Tîm Rheoli Achosion.

“Mae hyn yn cynnwys cynnig safle profi ychwanegol yn y sir yn ogystal â phroses Profi, Olrhain a Diogelu gwell a hunanynysu am 14 diwrnod ar gyfer unrhyw gysylltiadau.

“Nid yw pob achos wedi’i gadarnhau fel amrywiolyn Delta, ond y straen yw’r amrywiolyn amlycaf yn y DU ac rydym yn trin y profion positif cysylltiedig hyn fel amrywiolyn Delta. Mae’r amrywiolyn Delta yn fwy trosglwyddadwy, a glynu wrth y canllawiau yw’r ffordd orau o arafu ei ledaeniad o fewn ein cymunedau.

“Mae ymddangosiad yr achosion newydd hyn yn ein hatgoffa na ddylem fod yn hunanfodlon, hyd yn oed wrth i gyfraddau’r firws ledled Cymru aros yn isel.

“Dilyn y rheolau”

Ychwanegodd Nicola Stubbins: “Mae’n hanfodol nad yw preswylwyr yn ymgynnull gyda phobol eraill sy’n mynd yn groes i ganllawiau Covid-19 Llywodraeth Cymru ac yn parhau i fod yn wyliadwrus trwy ddilyn y rheolau, gan gynnwys gwisgo gorchudd wyneb mewn mannau dan do a chynnal pellter cymdeithasol,” ychwanega.

“Gallwch nawr fynd am brawf Covid-19 am ddim os oes gennych ystod ehangach o symptomau sy’n cynnwys symptomau tebyg i ffliw, nad ydynt yn cael eu hachosi gan gyflwr hysbys, poen yn y cyhyrau, blinder mawr, cur pen parhaus, trwyn yn rhedeg neu drwyn wedi blocio, tisian parhaus, dolur gwddf a/neu grygni, diffyg anadl neu wichian ar y frest, ac yn teimlo’n sâl yn gyffredinol.

“Dylai unrhyw un sy’n datblygu symptomau Covid-19 archebu prawf PCR mewn canolfan brawf ar unwaith ac yn dilyn canlyniad positif, rhaid iddynt hunanynysu a rhannu’r holl wybodaeth berthnasol â chynghorwyr Profi, Olrhain a Diogelu.

“Rydym hefyd yn atgoffa’r rhai cymwys a sydd ddim yn dangos symptomau i gynnal profion Llif Unffordd rheolaidd gartref, sydd am ddim ac y gellir eu harchebu ar-lein i’w danfon gartref.

“Byddwn hefyd yn annog unrhyw un sy’n gymwys i gael brechlyn i wneud hynny cyn gynted â phosibl ac i’r rhai sydd wedi cael eu dos cyntaf i dderbyn cynnig yr ail ddos.”