Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cadarnhau mai Ella Smith yw’r ddynes fu farw mewn gwrthdrawiad ar ffordd B4341 rhwng Hwlffordd ac Aberllydan ddydd Sul (Mehefin 13).

Daeth cadarnhad bellach ei bod hi wedi cael ei hadnabod yn ffurfiol.

Roedd hi’n 21 oed ac yn dod o ardal Camros ger Hwlffordd.

“Erchyll”

Mae teulu Ella Smith wedi talu teyrnged iddi.

“Rydym wedi ein syfrdanu’n llwyr ar ôl colli ein Ella annwyl,” meddai’r teulu mewn datganiad.

“Roedd hi’n ferch, chwaer ac wyres annwyl a gofalgar iawn.

“Roedd hi’n ferch hardd a fydd yn cael ei cholli gennym ni i gyd.

“Hoffem ddiolch i bawb am eu cefnogaeth ar yr adeg erchyll hon.

“Mae wedi golygu cymaint i’r teulu cyfan wrth i ni alaru am ein Ella.”