Mae adroddiad gan banel annibynnol wedi cyhuddo Heddlu Llundain o “ffurf ar lygredd sefydliadol” am guddio neu wadu methiannau’n ymwneud â llofruddiaeth y Cymro Daniel Morgan.
Yn ôl y Farwnes Nuala O’Loan, cadeirydd y panel, prif nod yr heddlu oedd “amddiffyn ei hun” am fethu â chydnabod nifer o fethiannau ers y llofruddiaeth.
Cafodd Daniel Morgan, oedd yn dditectif preifat, ei ladd â bwyell ym maes parcio tafarn y Golden Lion yn Sydenham yn ne-ddwyrain Llundain ar Fawrth 10, 1987.
Er gwaethaf pum ymchwiliad gan yr heddlu, yn ogystal â chwest, does neb wedi’i ddwyn i gyfiawnder dros y farwolaeth, gyda Heddlu Llundain yn cyfaddef fod llygredd wedi llesteirio’r ymchwiliad gwreiddiol.
Dywed yr adroddiad fod ar Heddlu Llundain ymddiheuriad i deulu Daniel Morgan a’r cyhoedd am fethu â mynd i’r afael â methiannau systemig a methiannau swyddogion unigol.
‘Diwylliant o lygredd a chelu’
Mewn datganiad drwy eu cyfreithiwr, dywed teulu Daniel Morgan eu bod nhw’n “croesawu’r gydnabyddiaeth” am y methiannau.
“Rydyn ni’n croesawu’r gydnabyddiaeth ein bod ni – a’r cyhoedd yn ehangach – wedi cael ein gadael i lawr dros ddegawdau gan ddiwylliant o lygredd a chelu gan Heddlu Llundain, llygredd sefydledig sydd wedi treiddio cyfundrefnau olynol Heddlu Llundain a thu hwnt hyd heddiw.”
Clywodd Aelodau Seneddol dair wythnos yn ôl fod teulu Daniel Morgan yn credu bod yr oedi cyn cyhoeddi “wedi ychwanegu at ein poen” – a’u bod nhw am i Priti Patel ailystyried y mater cyn gynted â phosib.
Dywedodd Priti Patel wrth Dŷ’r Cyffredin heddiw fod yr adroddiad “hynod frawychus” wedi datgelu enghreifftiau o “ymddygiad llygredig” a “chyfres o gamgymeriadau” gan Heddlu Llundain, a wnaeth “ddinistrio, yn anadferadwy, y siawns am erlyniad llwyddiannus”.