Bydd Mark Drakeford yn lansio cynllun i greu Cymru “gryfach, wyrddach, a thecach” heddiw (Dydd Mawrth, Mehefin 15).
Mae’r cynlluniau’n nodi ymrwymiadau Llywodraeth Cymru ar gyfer y pum mlynedd nesaf i wella bywydau pobol ar draws y wlad.
Daw hyn wedi i’r Gweinidog dros Newid yn yr Hinsawdd, Julie James, rybuddio fod angen i bawb wneud llawer mwy i leihau ein hallyriadau carbon, a bydd y cynllun yn rhoi’r amgylchedd wrth wraidd popeth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud.
Gwaith
Bydd y rhaglen yn cynnwys blaenoriaethu buddsoddi mewn iechyd meddwl, talu cyflog byw gwirioneddol i weithwyr gofal, a chynnig gwaith, addysg, hyfforddiant, neu hunangyflogaeth i bawb o dan 25 oed.
O ran yr amgylchedd, mae’r Rhaglen yn cynnwys creu Coedwig Genedlaethol a fydd yn ymestyn o’r de i’r gogledd, cyflwyno Deddf Aer Glân, a gwahardd mwy o blastig untro.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn ymrwymo i adeiladu 20,000 o gartrefi cymdeithasol carbon isel newydd i’w rhentu.
Radical
“Byddwn yn adeiladu Cymru decach, wyrddach a chryfach lle mae pawb yn gwneud ei ran – dydyn ni ddim eisiau i neb gael ei adael ar ôl na chael ei ddal yn ôl,” meddai Mark Drakeford, y Prif Weinidog.
“Mae ein Rhaglen Lywodraethu yn gynllun uchelgeisiol a radical sy’n nodi sut byddwn yn symud Cymru ymlaen, gan ganolbwyntio ar yr hyn sy’n bwysig i bobl a’r meysydd lle gallwn wneud y gwahaniaeth mwyaf i bobl a chymunedau.
“Mae pobl yng Nghymru yn gofalu am ei gilydd ac mae’r rhaglen hon wedi’i seilio ar yr egwyddor honno.”
‘Dim byd trawsnewidiol nac uchelgeisiol’
Wrth ymateb i raglen lywodraethol Llywodraeth Cymru, dywedodd Dirprwy Arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth AS: “Yr hyn sydd ei angen ar Gymru nawr yw llywodraeth a fydd yn mynd i’r afael â diweithdra ac amseroedd aros y GIG [Gwasanaeth Iechyd]; llywodraeth a fydd yn mynd i’r afael â gwraidd tlodi plant; llywodraeth a fydd yn datrys yr argyfwng tai gyda’r brys sydd ei angen a llywodraeth a fydd yn sicrhau newid cadarnhaol a thrawsnewidiol i bawb sy’n galw Cymru yn gartref.
“Ond does dim byd trawsnewidiol nac uchelgeisiol ynglŷn â rhaglen Llafur ar gyfer Llywodraeth.
“Nid oes unrhyw strategaeth economaidd i gefnogi a helpu busnesau bach a chanolig o Gymru i dyfu nac unrhyw fanylion ar sut y byddant yn darparu swyddi â sgiliau uchel, â chyflog da ym mhob rhan o Gymru. Nid oes unrhyw beth yma sy’n agos at fynd i’r afael â gwir achos tlodi plant – nac unrhyw ymrwymiad pendant i ymestyn prydau ysgol am ddim i bob plentyn. Ac nid oes unrhyw beth yma sy’n mynd i’r afael â’r argyfwng tai sy’n prysur waethygu ac sy’n prisio pobl ifanc allan o’u cymunedau.
“Nid yw’r rhaglen hon, sy’n denau o ran manylion ac yn absennol o dargedau, yn mynd i ddarparu’r dechrau newydd y mae ei angen ar Gymru ac nid hwn yw’r cynllun sydd ei angen i fynd â Chymru ymlaen i adferiad a thu hwnt.”
Rhaglen “ddim yn ennyn hyder”
Ychwanegodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies: “Fe fydd teuluoedd, gweithwyr a busnesau ledled y wlad yn dychryn ac yn poeni mai’r ddogfen 17 tudalen hon yw cyfanswm cynllun Llafur i gael Cymru ar y ffordd i adferiad ar ôl y pandemig.
“Mae gwir angen i Lywodraeth Cymru lwyddo os ydym am wella o’r flwyddyn anoddaf mae ein gwlad wedi’i phrofi, ond yn anffodus nid yw’r rhaglen hon – ynghyd â hanes gwael Llafur dros y 22 mlynedd diwethaf – yn ennyn hyder.”