Mae’r Gweinidog newydd ar gyfer Newid yn yr Hinsawdd wedi dweud y bydd Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio yn benodol ar wella’r amgylchedd.
Rhybuddia Julie James fod “angen i ni i gyd wneud llawer mwy i leihau ein hallyriadau carbon yn ystod y 10 mlynedd nesaf nag ydym wedi’i wneud yn ystod y 30 mlynedd ddiwethaf”.
Bydd Mark Drakeford yn cyhoeddi’r Rhaglen Lywodraethu yn gynnar yr wythnos nesaf, a bydd yn rhaglen uchelgeisiol a radical i wella bywydau pobol ledled Cymru, meddai’r Llywodraeth.
Amgylchedd wrth wraidd popeth
Wrth ddatgelu ei gabinet newydd, dywedodd y Prif Weinidog yn glir y bydd yr amgylchedd a newid hinsawdd “wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau”, gan greu uwch-Weinyddiaeth newydd i gydgysylltu’r meysydd polisi mawr i helpu Cymru i gyrraedd ei tharged cyfreithiol o sicrhau Sero Net erbyn 2050.
Am y tro cyntaf, mae trafnidiaeth, cynllunio, tai ac ynni’n dod o dan un Weinyddiaeth – ynghyd â’r amgylchedd- gyda dau weinidog yn cydweithio.
Bydd Lee Waters, y gweinidog ar gyfer Newid yn yr Hinsawdd a’r Dirprwy Weinidog ar gyfer Newid yn yr Hinsawdd, yn rhoi’r amgylchedd wrth wraidd popeth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud dros y tymor seneddol.
Byddan nhw’n gwneud hyn drwy ddilyn y cyngor gwyddonol diweddaraf, a byddan nhw’n annog pawb yng Nghymru i chwarae rhan yn y newidiadau er mwyn mynd i’r afael â newid hinsawdd, gwella iechyd pobol, helpu’r economi leol, a diogelu tirwedd a byd natur Cymru.
“Mynd ymhellach”
Wrth ymweld â disgyblion ysgol yng nghronfeydd dŵr Llys-faen a Llanisien, bydd Julie James yn dweud, “Rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol o ran gostwng lefelau allyriadau yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ond nawr mae’n rhaid i ni fynd ymhellach a symud yn gyflymach os ydym eisiau llwyddo i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd.
“I wneud hynny mae’n rhaid i ni wneud pethau’n wahanol a bod yn barod i fod yn feiddgar.”
“Yn ystod y pandemig rydym wedi gwneud newidiadau mawr i’r ffordd rydym yn byw ein bywydau oherwydd ein bod wedi dilyn y wyddoniaeth,” meddai.
“Mae angen i ni fabwysiadu’r un dull o ymdrin â newid yn yr hinsawdd. Mae gwyddonwyr y byd yn dweud wrthym yn gwbl glir bod angen i ni leihau allyriadau ar frys.”
“Wrth i dymheredd y byd godi, oherwydd newid yn yr hinsawdd, mae tywydd eithafol wedi digwydd yn amlach yng Nghymru. Yn 2020 gwelwyd y mis Mai mwyaf heulog a’r mis Chwefror gwlypaf ers dechrau cadw cofnodion.
“Mae’r gwyddonwyr yn glir y gallwn ddisgwyl mwy o hyn, gan effeithio ar bob rhan o Gymru drwy lifogydd yn ystod y gaeaf, sychder yn yr haf, stormydd ffyrnicach a lefelau’r môr yn codi o ganlyniad uniongyrchol i’r nwyon tŷ gwydr rydym yn eu rhyddhau.”
Manteision gwneud newidiadau
“Yn union fel rydym i gyd wedi gwneud newidiadau wrth i ni addasu i bandemig Covid, gallwn weld manteision mawr o wneud newidiadau i’r ffordd rydym yn byw ein bywydau i ymateb i newid yn yr hinsawdd,” meddai Lee Waters, y Dirprwy Weinidog ar gyfer Newid yn yr Hinsawdd.
“Mae ffyrdd tawelach, aer glanach, llai o sŵn a chysylltiad agosach â natur i gyd yn bethau rydym wedi’u gwerthfawrogi yn ystod y 15 mis diwethaf a dydyn ni ddim eisiau eu gweld yn dod i ben.
“Does dim rhaid i wneud newidiadau i’n bywydau i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd fod yn boenus – gallant ddod â manteision i ni i gyd.”