Mae miloedd o bobol asgell dde yn Sbaen wedi dod ynghyd yn y brifddinas Madrid i wrthwynebu bwriad y llywodraeth i roi pardwn i arweinwyr ymgyrch annibyniaeth Catalwnia.

Mae’r ymgyrchwyr yn sefyll dros undod Sbaen, ac maen nhw wedi dewis lleoliad yn Sgwâr Colon sy’n enwog am ralïau asgell dde.

Ymhlith y rhai sydd yno mae’r prif weinidog Pedro Sanchez ac arweinwyr nifer o bleidiau asgell dde.

Does dim cadarnhad swyddogol eto y bydd pardwn yn cael ei roi i 12 o arweinwyr aeth ati i drefnu refferendwm annibyniaeth yn 2017 nad oedd yn cael ei gydnabod gan lywodraeth Sbaen, oedd yn ei ystyried yn “anghyfansoddiadol”.

Ond mae lle i gredu bod y prif weinidog yn teimlo y byddai rhoi pardwn yn gam tuag at uno’r rhai sydd o blaid annibyniaeth gyda’r rhai sydd yn erbyn.

Ond mae ei blaid sosialaidd ei hun yn teimlo bod rhoi pardwn yn “risg”.

Dim ond 29.5% o Sbaenwyr sydd o blaid rhoi pardwn, tra bod 60% yn gwrthwynebu, yn ôl y papur newydd El Mundo.

Yn ôl y rhai sy’n gwrthwynebu, dydy’r arweinwyr ddim yn difaru’r hyn wnaethon nhw wrth wrthwynebu Cyfansoddiad Sbaen a’r unig reswm mae Pedro Sanchez yn ystyried rhoi pardwn yw er mwyn ennill mwy o gefnogaeth yn Senedd Sbaen.

Mae polau yng Nghatalwnia yn dangos bod cefnogaeth yno i’r pardwn rywle rhwng 60-70%.

Fe ddechreuodd yr ymgyrch tros annibyniaeth fagu coesau ryw ddegawd yn ôl yng nghanol gwasgfa ariannol a’r gwrthwynebiad oedd yn Sbaen i roi mwy o bwerau i Gatalwnia.

Mae’r mater hefyd wedi arwain at gynnydd ym mhoblogrwydd y blaid genedlaetholgar asgell dde Vox, y drydedd blaid fwyaf yng Ngyngres Sbaen.