Mae’r cymariaethau rhwng y sianel deledu newydd GB News a’r sianel Americanaidd Fox News yn “anffodus”, yn ôl y newyddiadurwr Simon McCoy.

Daeth rhaglen Heno ar S4C o dan y lach yr wythnos hon ar ôl i neges gael ei thrydar yn dymuno “pob lwc” i Guto Harri, y Cymro sydd ymhlith y cyflwynwyr.

Caiff y sianel newydd ei chadeirio gan Andrew Neil, cyn-newyddiadurwr a chyflwynydd y BBC.

Bydd McCoy, cyn-newyddiadurwr arall y BBC, yn cyd-gyflwyno rhaglen newyddion yn ystod y prynhawn gydag Alex Phillips.

Wrth gyfeirio at y sianel, dywed McCoy ei fod yn gobeithio am “awdurdod a natur gyfeillgar CNN, ond hwyl a chrafogrwydd Nick Ferrari ar raglen frecwast LBC”.

“Dw i’n credu yn sicr fod yna ragdybiaethau am GB News,” meddai.

“O ran y gymhariaeth anffodus yma â Fox News, roedd fel pe bai wedi’i gwreiddio mewn rhai llefydd yn y Twittersphere, ac mae hynny’n drueni oherwydd mae’n camddeall yn union yr hyn rydyn ni’n ei wneud.

“A’r unig ffordd y gallwn ni wrthbrofi yw drwy fynd ar yr awyr a bod yr hyn rydyn ni am fod.”

Heno

Roedd cryn ymateb wedi bod i neges Twitter o gyfrif rhaglen Heno yn dymuno “pob lwc” i Guto Harri wrth i’r sianel newydd lansio.

Roedd y neges yn cyfeirio at glip o’r archif yn cynnwys Andrew Neil, wrth i’r cyfrif hysbysebu Heno Aur.

Yn y clip, mae Andrew Neil yn darogan yn 1997 pa effaith fyddai technoleg yn ei chael ar ddarlledu, gwleidyddiaeth a busnes.

Mae Angharad Mair wedi bod yn ymateb i’r negeseuon gan gynnig eglurhad ynghylch y neges sydd bellach wedi cael ei dileu.

 

Y rôl ‘arall’ sy’n dod â’r frwydr yn erbyn Covid-19 yn fyw i Guto Harri

Alun Rhys Chivers

Y newyddiadurwr yn siarad â golwg360 am chwarae ei ran fel gwirfoddolwr