Mae Liz Saville Roberts yn rhybuddio arweinwyr gwledydd y G7 rhag derbyn “pregeth fombastig” gan Boris Johnson hyd nes ei fod yn dechrau arwain drwy esiampl.

Daw sylwadau arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan am brif weinidog Prydain mewn erthygl yn y Sunday Times.

Roedd hi’n ymateb i erthygl gan Boris Johnson ddydd Iau (Mehefin 10) oedd yn dweud bod “uwchgynhadledd y G7 yn gyfle i ddangos ein gwerthoedd i’r byd: bod yn agored, rhyddid, democratiaeth”.

Ond yn ei cholofn, dywed Liz Saville Roberts fod Llywodraeth Prydain “yn gwneud unrhyw beth ond dangos agwedd agored y Deyrnas Unedig neu barch at ryddid unigolion”, gan dynnu sylw at fygythiadau Priti Patel, yr Ysgrifennydd Cartref, i ddefnyddio grym yn erbyn ffoaduriaid, trigolion yr Undeb Ewropeaidd yn y ddalfa ac yn gorfod rhoi olion bysedd wrth gyrraedd, a cheiswyr lloches yn cael eu rhoi mewn barics anaddas.

Mae hi hefyd yn ei gyhuddo o beidio â dangos gwerthoedd democrataidd wrth “dorri’r gyfraith drwy roi cytundebau i’w ffrindiau” a “dirwyn y senedd i ben yn anghyfreithlon er mwyn osgoi craffu”.

Ac mae hi’n dweud ei fod e “wedi sathru ar ddemocratiaeth a sefydliadau Cymru drwy Fil y Farchnad Fewnol”.

Mae hi’n dweud na ddylai arweinwyr y G7 “dderbyn pregeth fombastig gan brif weinidog sydd wedi treulio’r blynyddoedd diwethaf yn tanseilio ein gwerthoedd clodfawr honedig bob cyfle”.

‘Hygrededd’

“Yn ôl y prif weinidog, mae uwchgynhadledd y G7 yn gyfle i ddangos ein gwerthoedd i’r byd: ‘bod yn agored, rhyddid, democratiaeth’,” meddai Aelod Seneddol Dwyfor Meirionnydd.

“Ond er mwyn i Mr Johnson gael unrhyw hygrededd, rhaid iddo ddechrau gartref.

“Mae ei lywodraeth a’i blaid yn gwneud unrhyw beth ond dangos agwedd agored neu barch y Deyrnas Unedig at ryddid unigol, gyda’r Ysgrifennydd Cartef yn bygwth defnyddio grym yn erbyn ffoaduriaid despret, trigolion yr Undeb Ewropeaidd yn y ddalfa ac yn gorfod rhoi eu holion bysedd wrth gyrraedd, a cheiswyr lloches yn cael cartref mewn barics nad oes modd byw ynddyn nhw.

“Mae’n deg dweud, go brin fod Boris Johnson yn adnabyddus am ei barch at ddemocratiaeth ychwaith.

“O ddirwyn y senedd i ben yn anghyfreithlon er mwyn osgoi craffu, i’w lywodraeth yn torri’r gyfraith drwy roi cytundebau anghyfreithlon i’w ffrindiau, mae gwerthoedd democratiaeth yn dangos parch prin yn San Steffan.

“Mae rhoddwyr Torïaidd yn cael eu grymuso i gymryd eu lle mewn ail siambr anetholedig, tra bod arian trethdalwyr yn cael ei dywallt i mewn i seddi Torïaidd cyfoethog yn enw ‘lefelu i fyny’.

“Mae llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi sathru ar ddemocratiaeth Cymru drwy Fil y Farchnad Fewnol, gan danseilio ein gallu i ddatblygu ein gwlad, cefnogi ein cymunedau lleol a chyflwyno gwarchodaeth amgylcheddol ystyrlon ag unrhyw synnwyr cydlynol o strategaeth neu gyfeiriad hirdymor.

“Yn fwy perthnasol i’r uwchgynhadledd, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cyhoeddi canllawiau newydd i ddiplomyddion y Deyrnas Unedig yn eu gorchymyn i ddileu cenedligrwydd Cymreig gan gyfeirio, yn hytrach, at y Deyrnas Unedig fel ‘cenedl’.

“Yn syml, dylai’r gymuned ryngwladol fod yn ofalus rhag derbyn pregeth fombastig gan brif weinidog sydd wedi treulio’r blynyddoedd diwehaf yn tanseilio ein gwerthoedd clodfawr honedig bob cyfle.”