Mae adroddiadau bod Christian Eriksen, un o chwaraewyr pêl-droed Denmarc, mewn cyflwr sefydlog yn yr ysbyty ar ôl cael ei daro’n wael ar y cae yn ystod yr Ewros neithiwr.

Fe ddigwyddodd ar y cae yn ystod gêm ei wlad yn erbyn y Ffindir yn Copenhagen, ac mae adroddiadau’n awgrymu iddo gael triniaeth yn y fan a’r lle wnaeth achub ei fywyd.

Fe gwympodd i’r llawr fynd i’r ystlys i gasglu’r bêl ar gyfer tafliad, a chafodd meddygon eu galw ar frys i’r cae.

Wrth iddo dderbyn triniaeth am gryn amser, fe wnaeth ei gyd-chwaraewyr ffurfio cylch o’i amgylch i’w warchod rhag y camerâu teledu, oedd wedi parhau i’w ddangos ar lawr.

Yn dilyn cryn oedi, ailddechreuodd y gêm, wrth i’r Ffindir ennill o 1-0 yn dilyn gôl gan Joel Pohjanpalo ar ôl 58 munud.

Ymateb i’r digwyddiad

“Mae Christian Eriksen ar ddihun ac mae ei gyflwr yn dal yn sefydlog,” meddai Cymdeithas Bêl-droed Denmarc mewn datganiad.

“Mae’n dal yn yr ysbyty yn Rigshospitalet am archwiliadau pellach.”

Roedd y rheolwr Kasper Hjulmand yn emosiynol yn ystod y gynhadledd i’r wasg ar ddiwedd y gêm, gan ddweud bod gan ei dîm ddewis i barhau i chwarae neu ddychwelyd heddiw (dydd Sul, Mehefin 13) i orffen y gêm.

“Allwn i ddim bod yn fwy balch o’r tîm hwn, sy’n gofalu’n dda am ei gilydd,” meddai.

“Mae yna chwaraewyr yno sydd yn gwbl emosiynol.

“Chwaraewyr, ar ddiwrnod arall, na fydden nhw wedi chwarae’r gêm hon.

“Maen nhw’n cefnogi ei gilydd.

“Roedd yn brofiad trawmatig.

“Mae ein holl feddyliau gyda Christian a’i deulu.

“Mae Christian yn un o’r pêl-droedwyr gorau, ond mae e’n well fyth fel person.”

Mae Aleksander Ceferin, llywydd UEFA, wedi talu teyrnged i Christian Eriksen gan ddweud bod digwyddiad o’r fath “yn rhoi bywyd mewn persbectif”.

“Dymunaf wellhad llwyr a buan i Christian, ac rwy’n gweddïo fod gan ei deulu nerth a ffydd,” meddai.

“Ar yr adegau hyn, mae undod y teulu pêl-droed mor gryf ac mae ganddo fe a’i deulu ddymuniadau a gweddïau pawb.

“Clywais i am gefnogwyr o’r ddau dîm yn canu ei enw.

“Mae pêl-droed yn gêm hardd ac mae Christian yn ei chwarae hi mewn ffordd hardd.”

Ymddiheuriad gan y BBC

Wrth i’r camerâu teledu barhau i ddangos y digwyddiad, fe wnaeth y cyflwynydd Gary Lineker ymddiheuro gan ddweud mai’r darllediad hwnnw “oedd y darllediad mwyaf anodd, poenus ac emosiynol dw i erioed wedi bod yn rhan ohono”.

Fe wnaeth e ddiolch i’w gydweithwyr Alex Scott, Cesc Fabregas a Micah Richards am eu “proffesiynoldeb, cynhesrwydd ac empathi”.

Dywedodd Lineker yn ystod y darllediad fod y lluniau “y tu hwnt i reolaeth” y BBC, gan ychwanegu y dylen nhw fod wedi dangos lluniau’r stadiwm yn ystod y digwyddiad.

Mae’r BBC bellach wedi ymddiheuro hefyd “i unrhyw un gafodd eu hypsetio gan y delweddau a gafodd eu darlledu”.

Dywedon nhw fod y delweddau dan reolaeth UEFA ond fe bwysleision nhw eu bod nhw wedi torri’r darllediad “cyn gynted â phosib”.