Mae Joss Labadie wedi ymuno â Chlwb Pêl-droed Walsall yn rhad ac am ddim o Gasnewydd.

Daw hyn ar ôl i’r Alltudion fethu ag ennill dyrchafiad ar ddiwedd y tymor.

Byddai ei gytundeb wedi dirwyn i ben ar ddiwedd y mis.

Mae’r chwaraewr 30 oed wedi treulio pum mlynedd yng Nghasnewydd gan arwain y tîm am y rhan fwyaf o’r cyfnod hwnnw.

Mae e wedi llofnodi cytundeb dwy flynedd gyda Walsall.

‘Gwefr’

“Dw i’n teimlo’r wefr o gael bod yma,” meddai am ei glwb newydd.

“Mae’n glwb anhygoel gyda stadiwm anhygoel a rheolwr anhygoel [Matt Taylor].

“Alla i ddim aros i gael dechrau.

“Mae’r clwb ei hun yn glwb Adran Gyntaf [League One] i fi, a dw i eisiau ceisio chwarae fy rhan wrth ein cael ni i’r lefel yna.

“Fe ges i gyfarfod gyda Matt ac roedd yn adeiladol iawn, yn bositif iawn ac roedd cael chwarae oddi tano fe gyda’i syniadau a’i athroniaeth yn ddeniadol iawn.”