Mae tîm criced Morgannwg yn croesawu Essex i Gaerdydd heddiw (dydd Sul, Mehefin 13, 2.30yp), gan obeithio sicrhau eu buddugoliaeth ugain pelawd gyntaf yn y Vitality Blast eleni.

Fe gawson nhw siom yn erbyn Swydd Gaerloyw yn eu gêm gyntaf nos Iau (Mehefin 10), wrth golli o bedwar rhediad.

Dydy Essex ddim wedi ennill gêm ugain pelawd yng Nghaerdydd ers 2016, pan darodd Jesse Ryder, chwaraewr amryddawn Seland Newydd, 42 a Tom Westley 41, wrth iddyn nhw ennill o saith wiced.

Yn Chelmsford y tymor hwnnw, tarodd Colin Ingram 101 heb fod allan.

Yn Chelmsford yn 2017, enillodd Morgannwg o bum wiced wrth i Ingram sgorio 114, gyda’r gêm gyfatebol yng Nghaerdydd wedi’i chanslo oherwydd y tywydd.

Enillodd y sir Gymreig o ddwy wiced yn Chelmsford yn 2018, ac o chwe rhediad yng Nghaerdydd yr un tymor wrth i Ingram sgorio 89 a Graham Wagg 53 – dyma’r tro cyntaf iddyn nhw guro Essex yn y brifddinas mewn gêm ugain pelawd.

Doedd dim modd cwblhau’r naill gêm na’r llall yn 2019 oherwydd y tywydd.

Essex oedd yn fuddugol yng Nghaerdydd yn 2010, 2011, 2014 a 2015.

Carfan Morgannwg: C Cooke (capten), K Carlson, D Douthwaite, C Ingram, M Labuschagne, D Lloyd, M Neser, A Salter, N Selman, P Sisodiya, R Smith, C Taylor, T van der Gugten, J Weighell

Carfan Essex: S Harmer (capten), W Buttleman, S Cook, F Khushi, J Neesham, A Nijjar, M Pepper, J Plom, J Porter, S Snater, R ten Doeschate, P Walter, T Westley

Mae modd gwylio’r gêm yn fyw yma

Sgorfwrdd