Mae Robert Page, rheolwr tîm pêl-droed Cymru, yn dweud y bu’n rhaid “gwarchod” Kieffer Moore cyn dechrau’r Ewros.

Daw’r eglurhad ar ôl i’r penderfyniad i’w hepgor o’r tîm yn ddiweddar achosi penbleth i gefnogwyr a sylwebyddion.

Yn ôl Page, roedd yn rhaid bod yn ofalus cyn dechrau’r gystadleuaeth oherwydd bod y tymor aeth heibio’n brysurach nag arfer oherwydd Covid-19.

Er gwaetha’i absenoldeb o’r tîm cyn y gystadleuaeth, sgoriodd e gôl allweddol i Gymru wrth iddyn nhw orffen yn gyfartal 1-1 yn erbyn y Swistir yn Baku yng ngêm gynta’r twrnament.

Dim ond dwy gêm mae’r ymosodwr wedi dechrau allan o wyth ers i Robert Page fod yng ngofal y tîm, ond fe sgoriodd e yn erbyn y Ffindir a Mecsico.

“Mae’r tymor domestig ar lefel y Bencampwriaeth wedi bod yn ddidrugaredd oherwydd Covid,” meddai Page.

“Mae wedi bod yn ddydd Sadwrn i ddydd Mawrth i ddydd Sadwrn i ddydd Mawrth.

“Daeth Kieffer i mewn i’r garfan ym mis Mawrth ac roedd e wedi anafu ei sodlau, felly fe fu’n rhaid i ni ei warchod e.

“Doedd dim angen y ddwy gêm arno fe gymaint â rhai eraill.

“Roedd cynifer o chwaraewyr gyda ni oedd angen munudau yn y ddwy gêm gyfeillgar hynny.

“Doedd hi ddim yn fater o drefniant na phersonél, ond yn fater o gael chwaraewyr ar y cae i sicrhau eu bod nhw’n iawn ar gyfer y gêm yn erbyn y Swistir.”

Record

Sgoriodd Kieffer Moore 20 o goliau i Gaerdydd y tymor diwethaf er nad oedd e ar gael am fis oherwydd anaf.

Enillodd ei gap cyntaf yn 26 oed yn 2019, ond mae e wedi sgorio chwe gôl mewn 18 o gemau erbyn hyn.

“Mae record Kieffer ar lefel y Bencampwriaeth ac yn rhyngwladol yn dda iawn,” meddai ei reolwr.

“Dw i’n gwybod ein bod ni wedi chwarae rhif naw ffals o’r blaen ac wedi cael llwyddiant yn gwneud hynny.

“Mae hynny’n dda oherwydd doedd dim rhaid i ni ddibynnu ar Kieffer i’n cael ni i fyny’r cae.

“Ond mae e’n dod ag elfen fwy corfforol gyda’i gyffyrddiad a’i chwarae cyswllt ac mae e’n rhedwr parod.

“Pan fo gyda chi’r nodweddion hynny, mae’n mynd i fod yn rysait ar gyfer llwyddiant.”