Mae Morgannwg wedi curo Essex o saith wiced wrth iddyn nhw gipio’u buddugoliaeth gyntaf y tymor hwn yng nghystadleuaeth ugain pelawd y Vitality Blast yng Nghaerdydd.

Roedd yn berfformiad cyflawn gan y tîm wrth i Marnus Labuschagne a Nick Selman daro hanner canred yr un, ac roedd dwy wiced yr un i’r troellwr Andrew Salter a’r bowliwr cyflym Ruaidhri Smith.

Tarodd Selman 65 oddi ar 45 o belenni mewn batiad oedd yn cynnwys saith pedwar a dau chwech, a tharodd Labuschagne chwe phedwar ac un chwech yn ei fatiad o 59 oddi ar 47 o belenni.

Cyrhaeddodd Morgannwg y nod o 153 gyda phelawd yn weddill.

Batiad Essex

Ar ôl galw’n gywir, fe wnaeth Morgannwg wahodd Essex i fatio ac fe wnaeth y Saeson fanteisio ar yr amodau yn ystod y cyfnod clatsio wrth gyrraedd 49 am un o fewn chwe phelawd.

Yr unig fatiwr gollodd ei wiced yn y cyfnod hwnnw oedd Tom Westley, a gafodd ei ddal oddi ar ymyl ucha’r bat gan Selman oddi ar fowlio Smith am saith, a’r ymwelwyr yn 26 am un.

Collodd Essex dair wiced mewn tair pelawd ym mhelawdau 10 i 12, gyda Will Buttleman yn cael ei ddal gan Selman yn sgwâr ar ochr y goes oddi ar fowlio Salter, cyn i Michael Pepper gael ei ddal gan y wicedwr Chris Cooke i lawr ochr y goes oddi ar fowlio Labuschagne am 29.

Ergyd wyllt arweiniodd at wiced Paul Walter, a hwnnw’n cael ei fowlio gan Salter i adael ei dîm yn 86 am bedair, a’r troellwr yn gorffen gyda dwy wiced am 31.

Daeth rhywfaint o sefydlogrwydd i’r batiad cyn i Feroze Khushi gael ei ddal gan Cooke oddi ar fowlio’r Iseldirwr Timm van der Gugten yn yr ail belawd ar bymtheg, ac Essex erbyn hynny’n 125 am bump.

Cafodd Jimmy Neesham o Seland Newydd ei ddal gan yr eilydd Callum Taylor wrth yrru i’r ochr agored oddi ar fowlio Smith am 21, gyda’r bowliwr yn gorffen â dwy wiced am 13 mewn dim ond tair pelawd wrth i Forgannwg benderfynu na fyddai’n bowlio’i belawdau i gyd.

Rywsut, llwyddodd Essex i gyrraedd 153 am chwech erbyn diwedd y batiad, a’r nod yn edrych yn un gymharol hawdd.

Morgannwg yn cwrso

Dechreuodd Morgannwg yn gadarn wrth i David Lloyd, oedd wedi anafu ei law wrth faesu, agor gyda Selman.

Roedden nhw’n 24 am un yn y drydedd pelawd wrth i Lloyd gael ei ddal gan Paul Walter oddi ar fowlio Jack Plom, ac fe gyrhaeddon nhw 48 am un erbyn diwedd y cyfnod clatsio – un rhediad y tu ôl i sgôr cyfatebol Essex.

Fe wnaeth Labuschagne a Selman ymlwybro wedyn wrth adeiladu partneriaeth o 110 mewn 13.2 o belawdau.

Cyrhaeddodd Selman ei hanner canred oddi ar 33 o belenni cyn cael ei ollwng gan y wicedwr Buttleman, ac fe gyrhaeddodd Labuschagne ei hanner canred yntau oddi ar 39 o belenni.

Collodd Selman ei wiced yn yr unfed belawd ar bymtheg wrth i Harmer ei ddal oddi ar ei fowlio’i hun, a Morgannwg yn dal yn gyfforddus ar 131 am ddwy.

Cafodd Labuschagne ei ddal yn y belawd olaf ond un gan Jamie Porter oddi ar fowlio Sam Cook am wrth ergydio tu ôl i’r sgwâr ar yr ochr agored.

Colin Ingram a’r capten Chris Cooke oedd wrth y llain yn y diwedd ac fe gyrhaeddon nhw’r nod yn ddigon cyfforddus.

Ymateb Nick Selman

“Fe ddechreuon ni ychydig yn araf ac fe gymerodd Marnus Labuschagne ychydig o belenni i danio ond fe wnaethon ni redeg yn galed a bwrw’r bylchau,” meddai Nick Selman.

“Roedd hi’n wych batio gyda fe.

“Mae’r ddau ohonon ni ychydig yn siomedig nad oedden ni yno yn y diwedd.

“Roedd hi’n llain braf i daro’r bêl ac roedd hi’n wych cael partneriaeth o gant gyda Marnus wnaeth ein helpu ni i groesi’r llinell.

“Mae’n hunlle’ braidd gyda fe yn nhermau rhedeg dau neu dri, ond dyna sy’n rhaid i chi ei wneud yn y T20.

“Doedden ni ddim yn bell ohoni yn ein gêm gyntaf, ond fe wnaethon ni fowlio lawer gwell heddiw a phartneriaethau gyda’r bat yw’r cyfan.

“Roedd hi’n braf cael partneriaeth tri ffigwr ac mae angen i ni adeiladu ar hynny nawr.”

 

Pêl griced wen

Morgannwg yn mynd am fuddugoliaeth ugain pelawd gyntaf wrth i’r Eryr lanio yng Nghaerdydd

Byddan nhw’n gobeithio taro’n ôl yn erbyn Essex heddiw (dydd Sul, Mehefin 13, 2.30yp) ar ôl colli eu gêm gyntaf yn erbyn Swydd Gaerloyw