Fe fydd tîm criced Morgannwg yn mynd am ail fuddugoliaeth mewn deuddydd yng nghystadleuaeth ugain pelawd y Vitality Blast heno (nos Lun, Mehefin 14), wrth iddyn nhw deithio i’r Oval i herio Surrey (6.30yh).

Fe wnaethon nhw guro Essex o saith wiced ddoe (dydd Sul, Mehefin 13) ar ôl colli eu gêm gyntaf yn erbyn Swydd Gaerloyw o bedwar rhediad.

Ac fe fyddan nhw’n teithio i Lundain yn llawn hyder yn sgil eu record mewn gemau ugain pelawd ar yr Oval.

Maen nhw wedi ennill chwech allan o’r saith gêm gyflawn sydd wedi’u cynnal yno yn y gorffennol.

Daeth eu buddugoliaeth ddiwethaf yno yn 2018 pan gwrsodd Morgannwg nod o 194 a chipio’r fuddugoliaeth â phelawd yn weddill yn absenoldeb Colin Ingram, oedd wedi’i daro’n wael â feirws ar ôl teithio yno.

Yn 2017, y Cymro Aneurin Donald oedd y seren â’r bat, wrth daro 76 cyn i Marchant de Lange gipio tair wiced am 29 i sicrhau’r fuddugoliaeth o chwe rhediad.

Ond Surrey sydd wedi bod yn fuddugol yn y tair gêm ddiwethaf rhwng y ddwy sir – yn 2017 yng Nghaerdydd, a 2018 a 2019 ar yr Oval.

Yn 2015, tarodd Ingram 91 wrth i Forgannwg ennill o 25 o rediadau – hwn yw’r sgôr unigol gorau gan fatiwr Morgannwg mewn gemau ugain pelawd yn erbyn Surrey.

Sgoriodd Morgannwg 240 am dair yn y gêm honno, o gymharu â’r 44 sgorion nhw ar eu hymweliad diwethaf yno yn 2019.

O ran y bowlwyr, yr Iseldirwr Timm van der Gugten sydd â’r ffigurau gorau erioed yno, ar ôl iddo fe gipio pedair wiced am 14 yn ei gêm ugain pelawd gyntaf i’r sir.

Rhwystredigaeth

Yn y cyfamser, mae’r prif weithredwr Hugh Morris yn dweud “nad oes dewis” ond cydymffurfio â chyfyngiadau Llywodraeth Cymru o hyd.

Ddydd Gwener, Mehefin 4, daeth cadarnhad gan y prif weinidog Mark Drakeford y byddai torfeydd o hyd at 10,000 o bobol yn cael dod ynghyd wrth gadw pellter o ddwy fetr oddi wrth ei gilydd.

Yn sgil hynny, daeth asesiad o stadiwm Gerddi Sophia mai uchafswm o 2,892 fyddai’n cael mynd yno’n ddiogel er mwyn cydymffurfio â’r cyfyngiadau.

Ond mae’r cyfyngiadau diweddaraf (ddydd Gwener, Mehefin 11) yn nodi mai dim ond aelodau o’r un aelwyd fydd yn cael eistedd gyda’i gilydd ac y byddai angen i bawb arall mewn grwpiau sy’n mynd gyda’i gilydd eistedd ddwy fetr ar wahân.

O ganlyniad, mae Morgannwg yn darogan na fydd torf fawr ar gyfer eu gemau cartref yn y Vitality Blast na chwaith ar gyfer gemau ugain pelawd rhyngwladol Lloegr yn erbyn Sri Lanca ar Fehefin 23 a 24.

“Does gennym ni ddim dewis ond cydymffurfio â deddfwriaeth Llywodraeth Cymru sy’n debygol o olygu capasiti gwirioneddol o oddeutu 1,500 o wylwyr yn ein stadiwm cyhyd ag y bydd rhaid cadw pellter cymdeithasol o ddwy fetr yng Nghymru.

“Mewn gwirionedd, ar gyfer pob tocyn gêm sy’n cael ei brynu, rydyn ni’n colli’r 11 sedd agosaf er mwyn gwneud lle i’r ddeddfwriaeth pellter cymdeithasol gan y bydd gofyn i gefnogwyr sydd wedi prynu mewn grwpiau nad ydyn nhw o’r un aelwyd eistedd ddwy fetr ar wahân.

“Bydd rhai o’r miloedd o gefnogwyr sydd wedi prynu tocynnau ar gyfer gemau yng Nghaerdydd yr haf hwn yn rhwystredig ac yn siomedig na fyddan nhw’n gallu mynd i’r gemau hyn.

“Yn amlwg, mae’r sefyllfa’n creu nifer o heriau ymarferol ac ariannol i’r clwb, ac rydyn ni’n gweithio drwyddyn nhw ar hyn o bryd er mwyn sicrhau ein bod ni’n gallu croesawu cynifer o gefnogwyr â phosib o fewn y cyfyngiadau hyn.”

Dywed ymhellach y bydd y clwb yn parhau i fonitro’r sefyllfa ar gyfer y gêm ryngwladol rhwng Lloegr a Phacistan ar Orffennaf 8 a’r gystadleuaeth Can Pelen fis nesaf a mis Awst.

Bydd y clwb yn cysylltu ag aelodau mewn perthynas â’r gemau yn erbyn Caint a Middlesex yr wythnos hon, yn ogystal â’r gemau yn erbyn Sri Lanca yr wythnos nesaf.

“Iechyd a diogelwch cefnogwyr criced yw ein prif flaenoriaeth o hyd,” meddai.

“Mae cynlluniau peilot chwaraeon diweddar yn dangos sut mae modd cael torfeydd capasiti uwch yn ddiogel ac rydyn ni eisiau cydweithio â Llywodraeth Cymru i sicrhau bod mwy o gefnogwyr criced yn cael dychwelyd i Erddi Sophia cyn gynted â phosib.”

Carfan Surrey: G Batty (capten), H Amla, J Clark, R Clarke, S Curran, T Curran, M Dunn, L Evans, B Geddes, W Jacks, D Moriarty, J Overton, R Patel, J Roy, J Smith

Carfan Morgannwg: C Cooke (capten), K Carlson, D Douthwaite, C Ingram, M Labuschagne, D Lloyd, M Neser, A Salter, N Selman, P Sisodiya, R Smith, C Taylor, T van der Gugten, J Weighell