Mae Ioan Cunningham, prif hyfforddwr tîm rygbi Cymru Dan 20, wedi enwi chwe chwaraewr newydd yn ei garfan ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad sy’n dechrau ddydd Sadwrn (Mehefin 19).

Yr Eidal fydd gwrthwynebwyr cyntaf Cymru, a hynny ym Mharc yr Arfau yng Nghaerdydd, gyda’r gic gyntaf am 8 o’r gloch.

Bydd Theo Bavacqua (Gleision Caerdydd) a James Fender (Gweilch) ynghyd â Joe Hawkins (Gweilch), Sam Costelow (Scarlets), Dan John (Exeter Chiefs) a Jacob Beetham (Gleision Caerdydd) i gyd yn chwarae yn yr ymgyrch y llynedd, tra bod Rhys Thomas, chwaraewr ail reng y Gweilch, yn y garfan ehangach.

Mae Cunningham wedi cyfaddef ei fod wedi gorfod gwneud nifer o benderfyniadau anodd cyn iddo gadarnhau ei garfan.

“Mae wedi bod yn her ond yn un gyffrous iawn,” meddai.

“Mae wedi bod yn broses hir yn arsylwi chwaraewyr mewn amgylchedd hyfforddi sydd hefyd wedi bod yn her gyda phrotocolau Covid a dim gemau, ond rydym yn hyderus fel grŵp hyfforddi fod y penderfyniadau cywir wedi’u gwneud ac rydym yn gyffrous i’w gweld yn chwarae.

“Cawsom garfan o tua 46/48 i ddechrau ac yna fe wnaethom dorri hynny i lawr i 36.

“Yna, cafwyd sgyrsiau anoddach fyth pan ddaethom â hi i lawr eto ac fe wnaeth hynny bwysleisio faint mae’n ei olygu i’r chwaraewyr hyn i gynrychioli eu gwlad – mae ei ostwng i lawr i 32 wedi bod yn anodd, mewn rhai safleoedd mae’r dyfnder yn gryf iawn.”

“Ar y cyfan, mae’n garfan weddol ifanc, dim ond chwe chwaraewr oedd yn rhan o grŵp y llynedd sydd ynddi, felly mae’n gyfnod o dalent newydd ffres i’r grŵp sy’n gyffrous.

“Mae llwyddiant yn golygu ennill gemau, mae’n cael yr hogiau i ddeall beth sydd ei angen i ennill.

“Rwy’n credu ei fod yn rhan o’u datblygiad, dyma eu proses o symud ymlaen.

“Rydyn ni’n hoffi mynegi ein hunain a chwarae brand o rygbi sy’n ddeniadol ond sydd hefyd â dynion yn mwynhau ennill mewn crys Cymru,” meddai.

Carfan Dan 20 Cymru ar gyfer y Chwe Gwlad

Blaenwyr: Garyn Phillips (Gweilch), Theo Bavaqua (Gleision Caerdydd), Cameron Jones (Gweilch), Efan Daniel (Gleision Caerdydd), Ollie Burrows (Exeter Chiefs), Connor Chapman (Dreigiau), Nathan Evans (Gleision Caerdydd), Lewys Jones (USON Bythau), Zak Giannini (Llanelli Wanderers), Joe Peard (Dreigiau), James Fender (Gweilch), Dafydd Jenkins (Exeter Chiefs), Rhys Thomas (Gweilch/Aberafan), Alex Mann (capten, Gleision Caerdydd), Crist Tshiunza (Exeter Chiefs), Harri Deaves (Gweilch), Tristan Davies (Gweilch), Carwyn Tuipulotu (Scarlets), Evan Lloyd (Gleision Caerdydd)

Olwyr: Jacob Beetham (Gleision Caerdydd), Morgan Richards (Dreigiau/Pontypridd), Carrick McDonnough (Dreigiau), Eddie James (Scarlets), Tom Florence (Gweilch), Joe Hawkins (Gweilch), Ioan Evans (Pontypridd), Daniel John (Exeter Chiefs), Sam Costelow (Scarlets), Will Reed (Dreigiau), Ben Burnell (Gleision Caerdydd), Harri Williams (Scarlets), Ethan Lloyd (Gleision Caerdydd)

Gemau’r Chwe Gwlad

Nos Sadwrn, Mehefin 19: Yr Eidal v Cymru, 8yh

Nos Wener, Mehefin 25: Cymru v Iwerddon, 8yh

Dydd Iau, Gorffennaf 1: Ffrainc v Cymru, 5yh

Nos Fercher, Gorffennaf 7: Cymru v Lloegr, 8yh

Nos Fawrth, Gorffennaf 13: Yr Alban v Cymru, 8yh