Mae’r Alban wedi dechrau eu hymgyrch Ewro 2020 yn erbyn y Weriniaeth Tsiec am 2 o’r gloch heddiw (dydd Llun, 14 Mehefin), ac mae Cymro Cymraeg yng nghanol y cyffro yn Glasgow.

Dyma’r tro cyntaf i’r Albanwyr chwarae mewn twrnament rhyngwladol ers Cwpan y Byd yn Ffrainc yn 1998.

Felly bydd dynion Steve Clark yn awyddus i wneud yn iawn am hynny drwy ddechrau’r twrnament gyda triphwynt.

Ac mae yno gêm enfawr yn erbyn Lloegr i edrych ymlaen ati mewn grŵp sy’n debygol o fod yn gystadleuol.

Croatia – aeth yr holl ffordd i rownd derfynol Cwpan y Byd 2018 cyn colli yn erbyn Ffrainc – yw’r tîm arall yn y grŵp, ond colli o 1-0 yn erbyn Lloegr ddaru nhw ddoe (dydd Sul, Mehefin 13).

Mae Kieran Tierney, amddiffynnwr Arsenal, yn absennol ar gyfer y gêm heddiw ac mae hynny yn golled fawr i’r Alban.

Liam Cooper, Jack Hendry a Grant Hanley yw’r tri yn y cefn.

Ac mae cyn gôl geidwad Caerdydd David Marshal hefyd yn dechrau iddyn nhw.

Mae’r capten Andy Robertson a Steven O’Donnell wedi dechrau’r gêm fel asgellwyr cefn, tra bod chwaraewr canol cae Manchester United, Scott McTominay hefyd yn dechrau.

O ran ymosod yr Alban, mae Lyndon Dykes a Ryan Christie yn dechrau fel ymosodwyr, a bydd Stuart Armstrong yn ceisio bygwth o’r asgell.

‘Pobol yr Alban yn caru pêl-droed’

Mae Gwydion ap Siencyn, sy’n byw a gweithio yn Glasgow, wedi bod yn disgrifio’r awyrgylch yn y ddinas wrth siarad â golwg360.

“Mae’r lle yn buzzing, dw i’n gweithio o adref heddiw ac mae fy fflat i ar un o’r prif heolydd o ganol y ddinas i Hampden Park,” meddai.

“Felly er mod i ddim wedi bod yn eu gweld nhw, dw i wedi bod yn clywed digonedd o chants y tu allan gan ffans yr Alban.

“Mae hi wedi bod yn 23 mlynedd [ers i’r Alban gystadlu mewn twrnament rhyngwladol] ac mae pobol yr Alban yn caru pêl-droed felly hyd yn oed heb unrhyw Gwpan y Byd, heb unrhyw Ewros neu os yw’r Champions League Final ymlaen, maen nhw wastad yn tiwnio mewn.”

Mae Gwydion hefyd yn dweud ei bod hi’n braf gweld rhywbeth oni bai am yr Old Firm Derby, sef darbi Glasgow rhwng Rangers a Celtic, yn cael sylw’r genedl.

“Mae’n neis eu bod nhw’n edrych ac yn cefnogi eu tîm cenedlaethol,” meddai.

“Maen nhw i gyd gyda’i gilydd am y gemau hyn.”

Taith i Wembley

Mae’r Albanwyr yn edrych ymlaen fwyaf yr haf hwn at y daith i lawr i Wembley, yn ôl Gwydion.

“Maen nhw’n ffansio trip i lawr i Wembley a dw i’n credu bod ganddyn nhw ychydig o obaith,” meddai.

“Mae’n teimlo weithiau fod gan yr Alban rhyw fath o hex yn erbyn Lloegr.

“Mi wnaethon nhw guro Lloegr yn Wembley ar ôl i Loegr ennill Cwpan y Byd, er enghraifft.

“Felly byddai repeat o hynny’r haf hwn yn grêt.”

Darlledu datganoledig

Mae darlledu datganoledig wedi bod yn un o’r pynciau trafod ar y cyfryngau cymdeithasol cyn y gêm.

Ydi Cymru’n cael cam, tybed?