Bydd 8,200 o gefnogwyr yn cael gwylio tîm rygbi Cymru’n chwarae yn erbyn Canada a’r Ariannin fis nesaf yng Nghaerdydd.

Dyma fydd y tro cyntaf i gefnogwyr gael gwylio gêmau yn Stadiwm y Prinicipality ers i Gymru herio Ffrainc ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad llynedd.

Bydd cyfres yr haf tîm Cymru’n dechrau gyda gêm yn erbyn Canada ar Orffennaf 3, a dwy gêm yn erbyn yr Ariannin ar Orffennaf 10 ac 17.

Fe fydd tocynnau’n mynd ar werth i glybiau sy’n aelodau o Undeb Rygbi Cymru fory (Mehefin 15ê).

“Does yna ddim byd tebyg i’r awyrgylch yn Stadiwm y Principality ar ddiwrnod gêm, a dw i’n gwybod fod ein chwaraewyr yn awyddus i ddod yn ôl allan o flaen torf,” meddai Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru, Steve Phillips.

“Mae agor y stadiwm i dorf lai yn gam cadarnhaol ymlaen a fydd yn caniatáu i gefnogwyr ddychwelyd a mwynhau rygbi rhyngwladol byw unwaith eto yng Nghymru.”

“Mae hyn wedi gofyn am fisoedd o gynllunio cymhleth, ond rydyn ni wrth ein boddau i fod mewn sefyllfa lle mae posib croesawu cefnogwyr yn ôl i’r stadiwm o’r diwedd,” meddai Mark Williams, rheolwr Stadiwm y Principality.

Mae pump o chwaraewyr newydd wedi’u henwi ar gyfer y garfan, a Jonathan Davies wedi’i enwi fel y capten.