Mae’r Alban wedi colli eu gêm gyntaf yn Ewro 2020 yn erbyn y Weriniaeth Siec o 0-2.

Sgoriwyd y ddwy gôl gan Schick.

Peniodd o ei gôl gyntaf ar ôl neidio’n uchel iawn i rwydo heibio i David Marshall, golwr yr Alban – a chyn golwr Dinas Caerdydd.

Roedd ei ail gôl yn un wych iawn wedi iddo godi’r bêl yn uchel uwchben Marshall ac i’r rhwyd ym Mharc Hampden, Glasgow.

Fe ddaeth yr Albanwyr yn ôl ac fe gafon nhw tua hanner dwsin o gyfloedd da iawn i sgorio – ond yn aflwyddianus.

Dyma’r tro cyntaf i’r Alban chwarae mewn twrnament tebyg ers 23 mlynedd.

Roedd tîm y Weriniaeth Siec yn edrych yn gryf drwy’r gêm er mai’r Alban oedd yn creu’r rhan fwyaf o gyfleoedd yn yr hanner cyntaf.

Mae’r Alban nawr yn wynebu chwarae yn erbyn Lloegr yn Wembley ddydd Gwener ac wedyn Croatia eto yn Glasgow ddydd Mawrth.

Baner yr Alban

Yr Alban yn erbyn y Weriniaeth Tsiec: “Mae’r lle yn buzzing,” medd Cymro Cymraeg yn Glasgow

Huw Bebb

“Dw i’n gweithio o adref heddiw ac mae fy fflat i ar un o’r prif heolydd o ganol y ddinas i Hampden Park,” meddai Gwydion ap Siencyn wrth golwg360