Mae Cymru’n disgwyl wynebu tîm Twrci llawer iawn gwell na gafodd eu trechu 3-0 yn erbyn yr Eidal, yn ôl Joe Rodon.
Cafodd Twrci eu curo 3-0 gan ffefrynnau Grŵp A yr Eidal yn Rhufain ddydd Gwener (11 Mehefin) ac maent ar waelod y grŵp ar ôl gêm 1-1 Cymru gyda’r Swistir.
Bydd tua 35,000 o gefnogwyr Twrci yn mynychu’r gêm, o’i gymharu ag ychydig gannoedd o gefnogwyr Cymru.
Cafodd gêm agoriadol Cymru ei gwylio gan dorf o 8,782 gydag ychydig gannoedd o’r ‘Wal Goch’ yn y stadiwm.
Gŵyr Rodon, amddiffynwr clwb Abertawe, y bydd Twrci yn awyddus iawn i ymateb o flaen yr hyn a ystyrir yn dorf gartref ym mhrifddinas Azerbaijan.
“Rydyn ni i gyd yn gyffrous, allwn ni ddim aros,” meddai Rodon wrth BBC Sport Wales.
“Yr adwaith naturiol ar ôl colli ydi dod allan yn ymladd am yr un nesaf ac mae angen i ni fod yn barod am hynny.
“Ond mae’r un peth i ni, rydyn ni eisiau ennill hefyd.
“Mae’n mynd i fod yn gêm anodd ond rydyn ni’n edrych ymlaen at yr her.”