Gall Kieffer Moore achosi problemau i unrhyw amddiffynnwr, yn ôl ei gyd-chwaraewr Harry Wilson
Sgoriodd Kieffer Moore ei chweched gôl ryngwladol yn ystod gêm agoriadol Cymru yn yr Ewros ddydd Sadwrn (12 Mehefin), gyda Chymru a’r Swistir yn gorffen yn gyfartal 1-1.
Yn gynharach yn ystod y gêm yn Baku, fe wnaeth gôl-geidwad y Swistir, Yann Sommer, atal gôl gan Kieffer Moore gyda blaenau ei fysedd.
“Dw i’n gwybod faint o lond llaw ydy e i bob tîm,” meddai blaenwr Lerpwl, Harry Wilson, a dreuliodd y tymor diwethaf yn chwarae gyda Kieffer Moore yng Nghaerdydd.
“Gofynnwch i unrhyw amddiffynnwr yn y byd, a fydden nhw ddim eisiau bod yn ei erbyn oherwydd ei fod e gymaint o lond llaw.
Haeddu
“Ond nid yn unig y mae e’n ddyn targed mawr, mae yna lawer mwy i’w gêm.
“Mae e wedi dangos hynny eleni ar lefel y clwb wrth gael 20 gôl – a phan mae e’n chwarae yn y blaen i ni ar lefel genedlaethol mae e’n rhoi dimensiwn gwahanol i ni.
“Rydyn ni’n gwybod ei fod e am ddal amddiffynwyr i ffwrdd, a dod â phobol eraill i’r gêm.
“Roedd ei gêm i gyd yn dda’r diwrnod o’r blaen, a dw i’n teimlo ei fod e’n haeddu ei gôl mewn pencampwriaeth fawr ar ôl y tymor mae e wedi’i gael.”
Fe wnaeth Kieffer Moore anafu ei ben yn ystod y gêm, a dychwelodd i’r cae gyda rhwymyn am ei ben.
“Fe wnes i roi ychydig o stic iddo fe am hynny,” ychwanegodd Harry Wilson.
Gêm Twrci
Bydd Cymru’n chwarae Twrci, a wnaeth golli o dair gôl i ddim yn erbyn yr Eidal dros y penwythnos, yn Baku dydd Mercher (16 Mehefin).
Bydd 30,000 o gefnogwyr yn cael mynd i’r stadiwm i weld y gêm honno, gyda nifer o gefnogwyr yn teithio o Dwrci yn sgil y cysylltiadau economaidd a diwylliannol ag Azerbaijan.
“Dw i bob tro’n meddwl fod rhaid peidio â cholli’r gêm gyntaf yn y bencampwriaeth, a ddaethon ni oddi yno gyda phwynt,” meddai Harry Wilson.
“Felly mae’n rhaid mynd â’r hyder a’r pethau cadarnhaol o hynny i gêm Twrci.
“Os ydyn ni’n ennill, yna mae hynny’n rhoi ni mewn sefyllfa gref yn mynd mewn i’r gêm olaf yn erbyn yr Eidal. Dyna ein unig ffocws, gêm Twrci.”